Mae busnes teuluol, a sefydlwyd yn Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn dathlu cyflawniadau ei staff benywaidd, ar ôl iddynt ymrwymo i gefnogi eu sgiliau arwain.
Cynhaliodd LBS Builders Merchants ddigwyddiad graddio ar gyfer y menywod sydd wedi ennill eu dyfarniadau y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), sy’n rhan o raglen datblygu gyrfa ehangach Chwarae Teg, yr elusen cydraddoldeb rhywedd.
Wedi’i sefydlu yn 1931, mae Prif Swyddfeydd LBS Builders Merchants yn Rhydaman ac mae wedi tyfu i fod y cyflenwr adeiladwyr annibynnol mwyaf blaenllaw yn Ne Cymru, gyda mwy na 30 o safleoedd ledled De Cymru a thîm o dros 400 o staff.
Dyma’r drydedd flwyddyn i’r busnes gofrestru staff ar raglen datblygu gyrfa Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg, sy’n cael ei hariannu’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’n fenter unigryw ac ysbrydoledig, sy’n helpu menywod sy’n gweithio i ddatblygu gwybodaeth, hyder a sgiliau ar gyfer rolau arwain tîm neu reoli.