Mae ymchwil ddiweddaraf Chwarae Teg yn dangos y gellid ychwanegu £13.6 biliwn at economi Cymru erbyn 2028 pe baem yn sicrhau cydraddoldeb rhywiol o ran cyfradd cyflogaeth, oriau a weithir a chynhyrchiant cyfartalog.
Mae’n ofynnol i fusnesau â 250 neu fwy o weithwyr adrodd yn flynyddol ar eu cyflogau ar gyfer dynion a menywod, gan gynnwys y cyflog cymedrig a chanolrif fesul awr, y bwlch bonws rhyw, y gyfran o ddynion a menywod a fydd yn cael bonws a chyfran y dynion a’r menywod sy’n gweithio ym mhob chwartel o’r dosbarthiad cyflog.
Gyda’i gilydd, mae’r ffigurau hyn yn rhoi cipolwg ar ble mae menywod yn debygol o fod yn gweithio mewn sefydliad, a sut mae hyn yn effeithio ar eu hincwm. Yn ogystal â’r ffigurau, rhoddir cryn anogaeth i sefydliadau gynhyrchu naratif sy’n amlinellu achosion unrhyw fwlch a chamau y byddant yn eu cymryd i fynd i’r afael ag ef.
Rydym yn annog pob busnes i gyhoeddi naratif a da oedd gweld bod llawer o sefydliadau a gyflwynodd adroddiad ar eu ffigurau bwlch cyflog rhwng y rhywiau'r llynedd yn dewis gwneud hyn.
Dim ond y cam cyntaf yw’r adrodd ar ffigurau Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. Gall adrodd fod yn ddull hynod ddefnyddiol o dynnu sylw at unrhyw feysydd neu gamau a allai fod yn atal recriwtio, cadw neu gynnydd menywod. Mae’n cael ei dderbyn yn gynyddol bod busnesau cynhwysol yn fwy llwyddiannus ac mae gweithwyr yn edrych yn gynyddol ar ymrwymiad busnesau i gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wneud penderfyniadau ynghylch ble i weithio.
Beth am BBaChau?
Er nad yw’n effeithio’n uniongyrchol ar BBaChau, mae angen i berchnogion busnes fod yn ymwybodol o hyd, gan y gallai gael ei raeadru i gynnwys busnesau bach a chanolig rywbryd yn y dyfodol. Ac os oes gennych gynlluniau mawr ar gyfer eich busnes neu os ydych chi’n agosáu at 250 o weithwyr, byddwch chi’n elwa o roi arfer gorau ar waith.
Efallai y bydd rhedeg busnes yn ymddangos fel pentwr di-ben-draw o waith papur deddfwriaethol a pholisi, ond mae’n werth chweil, wrth i chi groesawu adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel adnodd i’ch helpu i ddatblygu eich busnes. Yn Chwarae Teg, gwyddom y bydd cydraddoldeb o fudd i bawb, ac mae gan bob math o fusnes gyfraniad i’w wneud.
Felly rydych chi wedi adrodd am eich bwlch cyflog rhwng eich rhywiau – beth nesaf?
Mae ymchwil wedi dangos y gall busnesau sy’n croesawu amrywiaeth weld manteision amrywiol, gan gynnwys cynnydd mewn cynhyrchiant, gwell cyfraddau cadw, gwell recriwtio a chynnydd mewn elw yn y pen draw.
Dod yn Gyflogwr Chwarae Teg
Gallwn weithio gyda chi i feincnodi a chefnogi’ch sefydliad ar ddeg maes allweddol y busnes yn eich sector diwydiant. Mae’r rhain yn bethau y gwyddom sy’n atal sefydliadau rhag denu, cadw a datblygu menywod – pethau fel gweithio hyblyg, recriwtio, cyfathrebu, rheoli perfformiad. Nid yw gwella unrhyw un o’r pethau hyn yn fanteisiol i fenywod yn unig, bydd o fudd i staff ar draws y gweithlu.
Gall BBaChau gael mynediad i’n Rhaglen Fusnes Cenedl Hyblyg2, gwasanaeth ymgynghoriaeth Chwarae Teg am chwe mis a ariennir yn llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Gallwn eich cefnogi chi i’ch cynorthwyo i gynyddu eich mantais gystadleuol a dod yn gyflogwr o ddewis.
Ar gyfer sefydliadau mwy, mae rhaglen tanysgrifio Cyflogwr Teg Chwarae Teg yn dwyn ynghyd 25 mlynedd o brofiad o weithio gyda sefydliadau ar y materion hyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys y DVLA, Ford Manufacturing, Motonovo, a’r IPO.