Cynhelir Fforwm Uwch Arweinwyr Cyflogwyr Chwarae Teg ddwywaith y flwyddyn er mwyn i gleientiaid Gwobr Cyflogwyr Chwarae Teg ddod at ei gilydd a thrafod pynciau allweddol sy’n effeithio ar fusnes a chyflogaeth yng Nghymru.
Roedd y digwyddiad y mis hwn yn canolbwyntio ar anabledd yn y gweithle. Mae Partner Cysylltiadau Cleientiaid Chwarae Teg Jessica Hannagan-Jones, sydd ei hun yn byw gydag anabledd, yn myfyrio ar y themâu a’r materion allweddol a godwyd.
Roeddwn wrth fy modd yn gweld cynifer o Uwch Arweinwyr ledled Cymru yn dod at ei gilydd (yn rhithiol) i drafod ymchwil ddiweddar Chwarae Teg i anabledd, rhyw a’r gweithle, gyda phanel o westeion arbenigol o Scope, RNIB ac RNID. Ond mae’n rhaid i mi ddweud nad oeddwn i’n disgwyl teimlo mor emosiynol.
Gwyddom i gyd fod eleni wedi bod yn anodd i bawb. Ond rwy’n meddwl o fewn y wybodaeth ein bod ‘i gyd yn yr un cwch’ mae’n hawdd anghofio ein bod ni i gyd yn mynd drwy hyn mewn ffyrdd hollol wahanol.
Tynnwyd sylw at hyn wrth drafod y dull ‘un ateb sy’n addas i bawb’ felly cafodd llawer o sefydliadau eu gorfodi i’w fabwysiadu yn ôl ym mis Mawrth. Er enghraifft, rhannodd Jeni Bone o RNID fod defnyddio Microsoft Teams a llwyfannau cyfarfod ar-lein eraill o’r fath yn achosi problemau hygyrchedd i lawer - er enghraifft, y rhai sydd angen cyfieithydd BSL.
Neu faint o sefydliadau sy’n anfon e-bost cyffredinol, atodiad neu ddolen i ‘bob aelod o staff’ wrth anfon diweddariadau a newidiadau? Nid yw’n ddull sy’n hygyrch i bawb, fel yr esboniodd Kudirat Adeniyi o RNIB wrth y fforwm. A beth am y newidiadau y bu’n rhaid eu gwneud yn y swyddfa? Gyda systemau un ffordd, ardaloedd wedi’u gwahardd a hyd yn oed newidiadau i gyfleusterau toiled - er bod llawer yn gweld hyn yn annifyrrwch dychmygwch yr anhawster y mae’n ei achosi i rywun sy’n ddall neu’n rhannol ddall.
Mae ymchwil Chwarae Teg ‘Cymdeithas yw’r anabledd’ yn dangos mai dim ond 50% o Fenywod sy’n byw gydag anableddau oedd mewn cyflogaeth yng Nghymru cyn y pandemig. A chyda’r bwlch cyflogaeth anabledd (DU)yn 28.9% cyn y pandemig a’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn 15.5% (DU), mae gwybod bod diswyddiadau’n ysgubo’r genedl yn beth mwy brawychus byth.
Mae sefydliad Scope yn darparu gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n nodi bod ganddynt anabledd i gael gwaith. Fe’m syfrdanwyd pan ddywedodd Emma Baily a Guy Chaudior o Scope wrth y fforwm bod nifer y defnyddwyr gwasanaeth wedi codi 236% yn ystod y misoedd diwethaf yn unig.
Ategwyd hynny ymhlith y gweithwyr proffesiynol ar ein panel fod rhai a oedd yn ceisio eu cefnogaeth wedi dweud eu bod ‘allan yn gyntaf’ pan ddaeth i ddiswyddiadau. Gyda busnesau’n dadfeilio oherwydd penderfyniadau anodd, a oes llawer ohonynt wedi dychwelyd i’r hen wahaniaethu?
Ac yna mae’r anghydraddoldeb yn parhau, gyda’r farchnad swyddi bellach wirioneddol yn nwylo’r cyflogwyr. Weithiau mae hysbysebion swyddi ar gau mewn cyn lleied â diwrnod. I’r rhai sydd ag anableddau neu niwro-amrywiaeth, mae’n afresymol ac mewn rhai achosion mae’n amhosibl gwneud cais. Nid yn unig y mae hyn yn annheg iawn ar nifer o bobl sydd bellach allan o waith ond hefyd, mae cyflogwyr ar eu colled o ran cyfoeth o dalent drwy eithrio cynifer.
Mae hyder yn chwarae rhan mor enfawr wrth ddod o hyd i waith a gwyddom, pan ddaw’n fater o hyder yn y gweithle, a thrwy gydol gyrfa, fod menywod yn cael mwy o drafferth gyda’r diffyg o’i gymharu â dynion. I fenywod mae diffyg hyder hefyd wrth ddatgelu materion iechyd wrth chwilio am waith - gyda dim ond 39% o fenywod anabl yn datgelu mater iechyd yn ystod y cam ymgeisio o’i gymharu â 62% o ddynion.
Beth am nawr, mewn môr o ymgeiswyr, pan mae eisoes yn ddigon anodd cyrraedd y cam cyfweld. Faint fydd yn teimlo’n ddigon hyderus i wneud cais, i ddatgelu ac ymhellach fyth, os byddant yn llwyddo i gael cyfweliad, yn teimlo’n hyderus i ofyn am unrhyw addasiadau rhesymol neu fesurau bychain a allai wneud gwahaniaeth enfawr?
Wrth weithio yn Chwarae Teg gallaf fod yn gwbl agored am fy anabledd, ond nid yw bob amser wedi bod felly mewn mannau eraill (er, roedd cael trawiadau pan oeddwn mewn gwaith blaenorol yn ei gwneud hi’n eithaf amlwg) Mae’n syniad brawychus y byddwn i, mewn amgylchiadau eraill, yn ôl i fod yn poeni’n dawel am siarad am hyn.
Felly, beth all sefydliadau ei wneud er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn?
- Yn gyntaf, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i’n cydweithwyr anabl yn y sefyllfa bresennol hon. Gofynnwch, a yw eich gofynion yn cael eu bodloni? A yw’r ffordd rydym yn cyfathrebu’n effeithiol i chi? Ac, fel y nodwyd gan ein tîm gwych o banelwyr, cynigiwch atebion cyn iddynt orfod gofyn! Gall ‘ticiwch y blwch os oes angen…’ (neu rywbeth tebyg) syml gael ei roi i bawb yn y busnes - cofiwch, fydd pawb sydd ag anabledd ddim yn ei ddatgelu, felly drwy wneud gofyn yn norm gallech chwalu’r rhwystrau.
- Os ydych yn y sefyllfa erchyll o fod yn diswyddo, byddwch yn dryloyw wrth wneud eich penderfyniadau. Sicrhewch, os yw cydweithiwr anabl ymhlith y rhai sy’n cael eu diswyddo, eu bod yn gwybod pam ac nad ydynt yn cael eu gadael yn meddwl tybed a oedd eu hanabledd yn chwarae rhan yn y penderfyniad. Gallai’r effaith ar eu hyder fod yn enfawr os nad eir i’r afael â hyn.
- Os ydych yn y sefyllfa fwy ffodus o fod yn cyflogi ar hyn o bryd, meddyliwch am ba mor hir y mae eich cais ar agor. Sicrhewch nad yw eich proses yn caniatáu rhagfarn anymwybodol - ac ystyriwch hyn yr holl ffordd o’r hysbysebu i’r dethol.
- A meddwl yn y tymor hir, yn ôl at normalrwydd newydd, pryd bynnag y bydd hynny, ewch i’r afael fel sefydliad â sut mae eich polisïau’n adlewyrchu eich ethos a’ch penderfyniad i fod yn gyflogwr teg a chyfartal.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa wasanaethau sydd ar gael. Amlygodd dyfyniad gwych o’r fforwm “That well-kept secret, ‘Mynediad at Waith‘” pa mor isel yw ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael i helpu busnesau ac unigolion i gefnogi cydweithwyr ag anableddau yn y gwaith.
- Ac yn olaf, byddwch yn ddewr, gofynnwch am gefnogaeth. Os ydych yn credu fel sefydliad y gallech fod yn gwneud mwy neu’n gwneud yn well, gallwch ofyn ‘Sut?’ drwy estyn allan at y rhai sy’n gallu cynghori orau. Byddwch yn gwneud cam cyntaf anhygoel.
Mae Cyflogwyr Chwarae Teg yn cynnig gwasanaethau i gefnogi sefydliadau ar y materion hyn - gan gynnwys adolygiadau polisi, hyfforddiant arfer gorau ar recriwtio a dethol, hyfforddiant rhagfarn anymwybodol a llawer mwy. Am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni ar [email protected] neu fi’n bersonol ar [email protected]
Dydy hi ddim yn gyfrinach bod y byd wedi’i bwysoli tuag at y lleiafrif, nid y mwyafrif. Fodd bynnag, drwy’r Fforwm Uwch Arweinwyr a gweld y cyflogwyr blaengar hyn yn dod at ei gilydd nid yn unig i glywed y ffeithiau anodd hyn ond yn gofyn yn agored sut i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a rhannu’r camau gwych y maent eisoes wedi’u cymryd, rwy’n dal i gredu’n gryf y gallwn wneud bywyd, gwaith a chyfraith yn deg.