Anabledd a’r gweithle ar ôl Covid

1st September 2021
Wrth i bron i fis fynd heibio ers i Gymru brofi’r hyn sy’n cyfateb i “Ddiwrnod Rhyddid” ar 7 Awst, maed llawer o gyflogwyr wedi bod awyddus i gael staff yn ôl i’r swyddfa. Ond nid yw pob gweithiwr yn rhannu’r cyffro hwnnw, yn enwedig aelodau o staff sydd ag anableddau.

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Scope, awgrymwyd mai dim ond 2% o bobl anabl oedd yn teimlo’n ddiogel ynghylch ‘Diwrnod Rhyddid” yn Lloegr[1], a dengys y data mwyaf diweddar fod 68% o farwolaethau o COVID-19 wedi digwydd i bobl anabl yng Nghymru[2]. Does ryfedd felly fod llawer o weithwyr anabl yn teimlo’n bryderus wrth ddychwelyd i’r gweithle.

“Beth yw anabledd?”

Mae dau ‘fodel’ ar gael i ddisgrifio anabledd, sef y Model Meddygol a’r Model Cymdeithasol o anabledd.

Gyda’r model meddygol, anableddau person yw ffocws yr anfantais, ond gyda’r model cymdeithasol, mae’r ffocws ar yr amgylchedd o’u cwmpas sy’n achosi’r anfantais. Er enghraifft, diffyg mynediad i adeiladau ac agweddau negyddol. Yn gryno, cymdeithas yw’r broblem, yn hytrach na chyflwr person.

Er gwaethaf pwysigrwydd y model cymdeithasol, seilir deddfwriaeth cydraddoldeb ar y model meddygol, sef y Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf yn diffinio anabledd fel nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol (rhagor na dibwys) a hirdymor (yn para neu y disgwylir iddo bara o leiaf 12 mis) ar allu rhywun i gynnal gweithgareddau arferol beunyddiol (nid o reidrwydd yn gysylltiedig â gwaith, ond tasgau beunyddiol fel mynd i’r siop, hylendid personol a chymdeithasu).

Mae’r diffiniad hwn yn dal sawl cyflwr gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl a fu ar gynnydd yn ystod y pandemig.

Os yw gweithiwr a gyflogir yn anabl o dan y Ddeddf, bydd ganddynt ddiogelwch cyfreithiol rhag cael eu gwahaniaethu, rhag cael eu haflonyddu a rhag cael eu gwneud yn ddioddefwr yn y gweithle, y gallai cyflogwr fod yn atebol amdano. Byddai gan y cyflogwr hefyd ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer y gweithiwr cyflogedig hwnnw.

“Ond does gyda ni ddim gweithwyr anabl, felly does dim angen i ni boeni”

Allwch chi fod yn siŵr?

Gall anabled effeithio arnom ar unrhyw adeg yn ein bywydau. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), bydd pawb, bron, wedi cael eu hanableddu dros dro neu’n barhaol ar ryw adeg yn eu bywyd. Efallai fod gennych weithwyr presennol sy’n byw gydag anableddau ar hyn o bryd nad ydych chi’n ymwybodol ohonynt. Efallai y bydd gweithwyr sydd wedi gweithio o hirbell dros y 18 mis diwethaf wedi gallu ymdopi â’u hanabledd, felly dydyn nhw ddim wedi hysbysu’u cyflogwr. Ond efallai y bydd y gweithwyr hyn yn wynebu anawsterau wrth ddychwelyd i’r swyddfa.

Ymhellach, gydag effaith Covid hir yn debygol o gynyddu, mae’r tebygolrwydd o ddod yn anabl wedi cynyddu.

“Mae fy ngweithwyr i oll yn heini ac ifanc, felly maen nhw’n annhebygol o ddioddef gan Covid hir”

Gall Covid hir effeithio ar unrhyw un. Mae’n gyflwr ble bydd symptomau Covid 19 yn para am gyfnod hirach ar ôl i rywun gael ei heintio. Awgryma data swyddogol yn y DU fod dros 10% o bobl yn dal i ddioddef symptomau Covid 12 wythnos ar ôl cael eu heintio.[3] Gall symptomau gynnwys gorludded, diffyg anadl, niwl ymenyddol, y bendro, gorbryder, poen yn y cymalau, tinnitws a churiad afreolaidd ar y galon. Ar eithafion y sbectrwm, gall rhai ddioddef niwed parhaol i’w horganau. Nid yw ychwaith wedi’i gyfyngu i bobl a ddioddefodd yn wael gan symptomau Covid i ddechrau.

Nid proses linol yw gwella ar ôl Covid hir, a gall hyn fod yn anodd i gyflogwyr ei reoli. Mae’n gyffredin gweld gweithiwr yn abl i fynd i’r gwaith heddiw, ond yn methu â gwneud dim yfory. Awgrymodd tystiolaeth hefyd y gall gorymestyn yn gorfforol achosi i symptomau ailymddangos, ac argymhelliad NICE yw bod dioddefwyr Covid yn gwneud pethau’n raddol am o leiaf 12 wythnos ar ôl cael eu heintio, a dylai cyflogwyr ystyried hyn.

Gallai Covid hir fod yn ‘anabledd’ dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n golygu fod gan gyflogwyr gyfrifoldebau ychwanegol fel gwneud addasiadau rhesymol. Gallai hyn olygu bod yn hyblyg o ran oriau gweithio. Er enghraifft, os yw gweithiwr sydd â Covid hir yn dioddef â gorludded yn y boreau, gellid caniatáu iddynt ddechrau gweithio’n hwyrach yn y dydd. Gallai addasiadau eraill gynnwys newid y llwyth gwaith a sicrhau nad yw gweithwyr yn cael eu cosbi’n annheg gan broses reoli absenoldeb y busnes.

Yn anffodus, dangosodd arolwg a gynhaliwyd gan y TUC fod 52% o weithwyr â Covid hir wedi profi gwahaniaethu yn y gweithle.[4]

“Beth sydd angen i ni ei wneud?”

  1. Gwybod beth yw eich cyfrifoldebau cyfreithiol

Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau risg, mabwysiadu mesurau diogelwch Covid, cydymffurfio â rhwymedigaethau iechyd a diogelwch, sicrhau fod eich polisïau a’ch gweithdrefnau wedi’u diweddaru’n gyfredol ac yn hygyrch, a deall eich cyfrifoldebau i weithwyr anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Fel cyflogwr, rydych chi’n gyfrifol am iechyd, diogelwch a llesiant eich staff p’un a oes ganddyn nhw anabledd ai peidio. Ceisiwch gyngor a hyfforddiant os oes gennych fwlch yn eich gwybodaeth neu ddealltwriaeth.

  1. Ymgynghori â’ch gweithwyr

Ymgynghorwch â’ch staff ar y cyfle cyntaf ynghylch dychwelyd i’r gwaith er mwyn i chi ddatrys gofidiau gyda’ch gilydd. Dylai trafodaethau gynnwys sut a phryd y gall gweithwyr ddychwelyd, asesiadau risg ac unrhyw addasiadau a gynllunnir ar gyfer y gweithle i’w wneud yn amgylchedd mwy diogel. Gallai cyflogwyr gynnal arolygon staff i gael dealltwriaeth gychwynnol o ofidiau, ac wedyn wahodd gweithwyr i gael ymgynghoriad yn ac un.

Dylid ymgynghori’n unigol â staff sydd ag anableddau, problemau iechyd, cyfrifoldebau gofalu neu sy’n bryderus am ddychwelyd i’r gwaith, er mwyn trafod eu gofidiau ac unrhyw addasiadau y gellir eu gwneud. Dylai ymgynghori fod yn broses barhaus, nid yn ddigwyddiad un-tro.

Ni ddylai cyflogwyr wneud tybiaethau am gyflwr na sefyllfa gweithiwr, na pha addasiadau y gallai fod angen ei wneud ar eu cyfer. Nid yw gweithio o gartref bob amser yn ateb i weithwyr anabl, Mae hygyrchedd eich mangre gweithio o’r pwys mwyaf, nid yn unig i weithwyr, ond er budd eich cleientiaid, cwsmeriaid ac ymwelwyr hefyd.

Dylid cofio hefyd nad yw pawb wedi cael eu brechu nac yn gallu cael eu brechu, a all fod yn ofid pellach i bobl ag anableddau, neu rai sy’n byw gyda pherson anabl neu sy’n agored i niwed yn glinigol.

Gweithredwch mewn dull tosturiol ac unigol.

  1. Addysgu eich hun ar faterion anabledd

Ymchwiliwch i ‘abled’, model cymdeithasol anabledd a’r bwlch cyflog anabledd. Darllenwch yr adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael i gyflogwyr ar wefannau elusennau anabledd. Mynychwch hyfforddiant anabledd yn y gweithle ac ymrwymwch i wasanaeth ‘Eiriolwyr Cyflogaeth Pobl Anabl’. Dyma wasanaeth rhad ac am ddim sydd ar gael i holl gyflogwyr Cymru sy’n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i gyflogwyr o ran anabledd.

I gael mwy o wybodaeth gweler:

Cyflogaeth Pobl Anabl | Porth Sgiliau Busnes Cymru (gov.wales)

Darllen pellach:

Disabled People’s Employment Champions Partner Toolkit.pdf

Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 | LLYW.CYMRU

Home | Disability charity Scope UK

Home. - Anabledd Cymru

[1] Only 2 per cent of disabled people feel safe about ‘Freedom Day’ | Disability charity Scope UK

[2] Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 | LLYW.CYMRU

[3] Prevalence of ongoing symptoms following coronavirus (COVID-19) infection in the UK - Office for National Statistics (ons.gov.uk)

[4] Workers’ experiences of long Covid | TUC

Ysgrifennwyd gan: Carys Strong LLB (Anrh), Cyfreithiwr Nad yw’n Ymarfer, Partner Gyflogwr ar gyfer Rhaglen Fusnes AN2 Chwarae Teg