Mae menywod sydd am archwilio ac arfogi eu hunain ar gyfer byd entrepreneuriaeth yn cael cynnig cyngor a chefnogaeth am ddim trwy gyfres o weminarau newydd.
Gan gychwyn yr wythnos nesaf, nod y sesiynau yw annog menywod sy’n dyheu am ddod yn feistri arnynt eu hunain mewn ffordd sy’n gweddu i’w bywydau eu hunain.
Bydd Chware Teg yn cynnal y sesiynau, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ar 9 a 16 Rhagfyr rhwng 11am-1pm ac ar 17 Rhagfyr rhwng 11-12.30pm. Bydd pob un yn canolbwyntio ar agwedd wahanol ar sefydlu a rhedeg busnes.
Bydd yr ymgynghorydd, Sarah Rees yn hwyluso’r ddwy sesiwn gyntaf, ar ôl cefnogi cannoedd o fenywod ledled Cymru i ddod o hyd i waith a gwireddu eu nodau gyrfa. Bydd ei gweminarau ‘A allwn i fod yn fenyw fusnes?’ ac ‘Oes gen i syniad?’ yn sesiynau ymarferol yn edrych ar sgiliau a chymhellion trosglwyddadwy, ac yn tywys cyfranogwyr drwy’r broses o droi hedyn syniad yn gynllun gweithredu.