Mae gweithio hyblyg yn cyfrannu at sicrhau cydbwysedd synhwyrol rhwng bywyd a gwaith, ac ni ddylid ei ystyried fel rhywbeth i famau sy’n gweithio’n unig.
Gall arferion gweithio modern – yn enwedig gweithio hyblyg – greu amrywiaeth eang o fanteision i fusnesau a’u gweithwyr cyflogedig. Mae cefnogi staff trwy roi opsiynau i reoli eu gwaith ynghyd â’u cyfrifoldebau eraill yn golygu bod staff yn hapusach, yn dangos mwy o ddiddordeb yn eu gwaith ac yn fwy cynhyrchiol. Mae amgylchedd gwaith hyblyg yn sicrhau gwell bywyd cartref, perthynas well ag eraill a gwell iechyd a lles. Mae’r manteision i gyflogwyr yn cynnwys llai o absenoldebau, llai o staff yn gadael a mwy o gynhyrchiant ac ymroddiad.
Mae manteision i economi Cymru a’r gymdeithas gyfan hefyd. Mae’r gyfran o fenywod Cymru sydd mewn gwaith cyflogedig yn parhau i gynyddu, fodd bynnag nid ydym wedi cyrraedd y nod o gydraddoldeb a chynhwysiant hyd yma. Os llwyddir i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, amcangyfrir y gallem ychwanegu £150 biliwn at y cynnyrch domestig gros erbyn 2025. Byddai’r effaith ar Gymru yn sicrhau twf o 8% i’n heconomi. Gall arferion gwaith modern helpu i gynyddu cyfraddau cyflogaeth, yn enwedig i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Mae hyn yn arwyddocaol i fenywod sy’n parhau i gyflawni cyfran anghymesur o gyfrifoldebau gofal plant. Mae opsiynau gweithio hyblyg yn golygu y gall mwy o fenywod ddychwelyd i weithio’n llawn amser ar ôl cael plant, a pheidio â chael eu cyfyngu i waith rhan-amser, sy’n aml yn swyddi sgiliau is neu gyflog is. Trwy gynnig gweithio hyblyg, gellir mynd i’r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau penodol, megis ynni a TGCh, gan ddileu rhwystrau ac annog mwy o fenywod i feincnodi a mynd i’r meysydd hyn. Mae Chwarae Teg yn gweithio gyda busnesau i feincnodi a mynd i’r afael â’r materion rhyw economaidd hyn trwy ein gwasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg.
Mae ymchwil Chwarae Teg yn dangos bod y rhan fwyaf o fusnesau Cymru yn credu bod arferion gweithio modern yn cael effaith gadarnhaol i gyflogwyr a’u gweithwyr cyflogedig fel ei gilydd, yn ogystal â chynnig manteision economaidd a chymdeithasol ehangach. Ac mae’r manteision hyn yn gyffredin i bob sector. Ond beth yw’r rhwystrau sy’n atal rhoi arferion gweithio modern ar waith, a sut gall cyflogwyr eu goresgyn er mwyn iddynt ddiwallu eu hanghenion?
Mae’r pryderon sylfaenol a glywn yn cynnwys disgwyliadau cleientiaid, lle nad yw oriau gweithio hyblyg yn cyfateb i oriau swyddfa cleientiaid o reidrwydd, colli awyrgylch gweithio fel tîm, rheolwyr yn glynu wrth y patrwm 9-5 traddodiadol, wythnos waith pum niwrnod, ac agweddau negyddol at weithio o gartref neu’n rhan-amser. Gall cyfyngiadau seilwaith ei gwneud yn anodd sefydlu arferion gweithio hyblyg, yn arbennig mewn rhannau o Gymru lle mae’r gwasanaeth ffôn symudol yn gyfyngedig neu’r rhyngrwyd yn araf.
I oresgyn y rhwystrau hyn, mae sicrhau eglurder wrth gyfathrebu rhwng rheolwyr a staff ynghylch disgwyliadau a llwyth gwaith yn hanfodol, fel y mae cael canllawiau effeithiol ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr cyflogedig i’w defnyddio fel fframwaith. Mae yna sawl math gwahanol o weithio hyblyg - oriau rhan-amser, oriau cywasgedig, oriau hyblyg, rhannu swydd a gweithio gartref yw’r mwyaf cyffredin.