Chwarae Teg yn ymateb i Gyllideb 2023

15th March 2023

Mae’r gyllideb heddiw yn cynnig buddsoddiad y mae mawr ei angen mewn gwasanaethau gofal plant yn Lloegr, ond nid yw’n mynd yn ddigon pell i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb ar sail rhywedd.

“Tra bod croeso i unrhyw fuddsoddiadau mewn gofal plant, mae cyflymder y newid a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw yn llawer rhy araf. Mae gwir angen newidiadau i gymorth gofal plant drwy Gredyd Cynhwysol, ond mae angen ehangu cymorth i blant 9 mis oed a hŷn yn gynt o lawer nag a gynlluniwyd.

“Mae ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer rhieni plant dwy oed eisoes ar y gweill yng Nghymru. Roeddem wedi gobeithio y byddai cyhoeddiadau heddiw yn creu lle i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach ac yn gyflymach. Nid yw’n glir eto sut y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer Lloegr yn effeithio ar y ddarpariaeth yng Nghymru, ond credwn fod angen buddsoddiad yn awr i roi’r lle i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiadau ei hun ynghylch gofal plant.

“Mae hefyd yn destun pryder clywed y ffocws cynyddol ar amodoldeb o fewn y system fudd-daliadau. Mae amodoldeb yn offeryn di-fin sy’n rhy aml yn methu ag ystyried amgylchiadau unigolyn. Gwyddom fod menywod yn fwy tebygol o fod yn gweithio tra’n derbyn Credyd Cynhwysol ac yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan yr amodau cynyddol ar gyfer y rhai nad ydynt yn ennill digon i gyrraedd y trothwy diwygiedig.

“Yn olaf, mae’r Canghellor hefyd wedi colli cyfle i ddarparu mwy o gefnogaeth i’r rhai sy’n cael trafferth gyda’r argyfwng costau byw. Gwyddom fod menywod yn teimlo’r pwysau mwyaf oherywdd yr argyfwng costau byw. Er bod llawer o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, mae ein hymchwil ein hunain yn dangos mai menywod yw'r rhai cyntaf i fynd hebddynt pan fo adegau'n anodd. Yn anffodus, mae’r diffyg cymorth i’r rhai lleiaf cefnog yn golygu bod menywod unwaith eto’n talu pris yr argyfwng costau byw.

“Fel rydym wedi amlygu o’r blaen, er mwyn cefnogi menywod a chwrdd â’r heriau economaidd presennol yn uniongyrchol, rhaid i Lywodraeth y DU ganolbwyntio cydraddoldeb yn ei phenderfyniadau cyllidebol.

Lucy Reynolds
Prof Weithredwr, Chwarae Teg