Gweithiwch gyda ni i archwilio’r cysylltiad rhwng dysgu a gwell hyder, gwytnwch a lles…
Fel rhan o’n prosiect Cenedl Hyblyg 2, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, mae gennym gyfle ymchwil cyffrous.
Rydym am weithio gyda chwmni ymchwil i ymgymryd â phrosiect sy’n archwilio’r cysylltiad posibl rhwng dysgu a gwell hyder, cymhelliant personol, gwytnwch a lles.
Mae ein marchnad lafur yn dal i fod wedi’i harwahanu’n fawr ar sail rhywedd ac mae menywod yn dal i wynebu anghydraddoldeb, sy’n amlwg yn y bylchau ar sail rhywedd o ran tâl, cynrychiolaeth, oriau a weithir a chyfraddau cyflogaeth a gweithgarwch economaidd. Mae’r anghydraddoldeb hwn yn ganlyniad i nifer o faterion rhyng-gysylltiedig, gan gynnwys dylanwad parhaus stereoteipiau rhywedd, anghydbwysedd o ran cyfrifoldebau gofalu a materion gwahaniaethu, yn enwedig o ran menywod o liw a menywod anabl.
Does dim un ateb er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bob menyw yn y farchnad lafur, ondrydym yn gwybod y gall mynediad at ddysgu, hyfforddiant, datblygu sgiliau a chymorth datblygu gyrfa gael effaith sylweddol ar brofiadau, dilyniant a chyfraddau cyflog menywod.
Prif amcan yr ymchwil hwn yw archwilio ymhellach a oes cysylltiad rhwng dysgu a gwell hyder, lles a gwydnwch ymhlith menywod. Nod yr ymchwil yw casglu rhagor o ddata er mwyn deall i ba raddau y gall dysgu effeithio ar y canlyniadau meddal honedig hyn, p’un ai a oes unrhyw wahaniaethau o ran rhywedd, a yw nodweddion penodol neu fodelau cyflenwi yn effeithio arnynt, ac a yw’r canlyniadau hyn yn cael eu cyflawni ar gyfer menywod.
Y prif gwestiwn ymchwil yw:
Pa effaith mae dysgu yn ei gael ar hyder, gwytnwch a lles menywod?
Dylai cwestiynau eilaidd gynnwys:
A yw rhywedd yn effeithio ar unrhyw gysylltiad rhwng dysgu a gwell hyder, gwytnwch a lles? Oes unrhyw wahaniaethau croestoriadol (intersectional)?
A yw modelau darparu penodol yn effeithio ar unrhyw gysylltiad rhwng dysgu a gwell hyder, gwytnwch a lles? Dylid ystyried ffactorau megis cynnwys coetsio, lleoliadau grŵp o’i gymharu ag unigol, lleoliadau menywod yn unig a chyflwyno wyneb yn wyneb o’i gymharu â rhithwir
Cyllideb yr ymchwil hon yw hyd at £20,000 (gan gynnwys TAW).
Dysgwch fwy am y prosiect a sut i gyflwyno dyfynbris yn y Gwahoddiad i roi Dyfynbris.