Cyflwr y Genedl – Flwyddyn Yn Ddiweddarach

31st January 2020

Mae elusen cydraddoldeb rhywiol blaenllaw Cymru wedi rhybuddio bod angen cymryd camau pellgyrhaeddol er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb mewn cyfrifoldebau gofalu, tlodi, camdriniaeth ac aflonyddwch a wynebir gan fenywod yng nghymdeithas heddiw.

Mae Chwarae Teg wedi pwysleisio’i bryderon parhaus ac yn galw am weithredu yn ei ail adroddiad ar Gyflwr y Genedl, a lansiwyd yng Nghasnewydd.

Er bod yr ymchwil yn dangos bod rhywfaint o gynnydd cadarnhaol wedi bod, er enghraifft, cynnydd yng nghynrychiolaeth menywod, yn enwedig ym myd gwleidyddiaeth, mae anghydraddoldebau dramatig i fenywod mewn meysydd ac agweddau eraill ar fywyd.

Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi cynyddu, mae menywod yn dal i weithio am gyflogau is, mewn sectorau llai diogel; nid ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn swyddi uwch, a menywod sy’n gwneud y rhan fwyaf o swyddi rhan amser. Mae gwrthgyferbyniad trawiadol o ran ‘cyfrifoldebau gofalu’ hefyd, gyda 28% o fenywod yn dweud mai dyma’r rheswm pam na allant weithio, o’i gymharu â dim ond 7.2% o ddynion. Felly, mae’r elusen yn galw am fwy o gynnydd er mwyn ysgafnu’r baich ar fenywod, sicrhau bod cyfrifoldebau gofalu’n cael eu rhannu a bod menywod yn gallu symud ymlaen yn eu gwaith.

Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod profiadau menywod yn yr economi, cynrychiolaeth menywod a’r mwy o beryglon y mae menywod yn eu hwynebu i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd. Mae sefyllfa menywod yn y farchnad lafur yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, o galedi ariannol, o dlodi ac o unigedd cymdeithasol. Mae profiadau o aflonyddu a cham-drin rhywiol hefyd yn dal i fod yn bryderus o gyffredin. Ni ddylai hyn fod yn brofiad cyffredin i fenywod, ac mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael â sail y problemau hyn er mwyn sicrhau y gall menywod fyw eu bywydau’n rhydd o aflonyddu a cham-drin.

Gan gofio hyn, mae Chwarae Teg yn pryderu na fydd y materion a’r profiadau hyn yn cael eu hamlygu heb fod lleisiau menywod mewn swyddi o rym, yn enwedig lleisiau menywod amrywiol, ac na fydd newid yn y ffordd y gwneir penderfyniadau ynglŷn â sut i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

"Gweledigaeth Chwarae Teg yw i Gymru fod yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau; yn lle y gall pob menyw, waeth beth fo'i chefndir, gyflawni ei photensial. Mae hon yn weledigaeth a rennir, gyda Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fod yn Llywodraeth ffeministaidd, a mwy a mwy o fusnesau a sefydliadau’n cydnabod gwerth cydraddoldeb ac amrywiaeth.

"Ond rhaid dilyn bwriadau da â gweithredoedd. Mae Cymru wedi gwneud cynnydd da, ond mae llawer o waith i'w wneud eto cyn i ni sicrhau chwarae teg i bawb.

"Mae Cyflwr y Genedl Chwarae Teg yn gyfle i fyfyrio ar hyn, ac i asesu sut yr ydym yn symud tuag at y weledigaeth hon o gydraddoldeb a rennir rhyngom. Mae'n gyfle i fod yn onest gyda ni'n hunain, i edrych ar ble’r ydym yn perfformio'n dda, ble mae angen i ni wella, a pha gamau sydd angen i ni eu cymryd.

"Mae adroddiad eleni’n rhoi darlun cymysg. Er ein bod wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran cynrychiolaeth menywod, nid yw'r ffigurau'n dangos newid sylweddol o ran profiadau menywod yn y gwaith, na'r perygl i fenywod o aflonyddu, cam-drin a thlodi. Ac er bod ystadegau fel y rhai sydd yn ein hadroddiad yn hanfodol o ran mesur ein cynnydd, ni allant adrodd y stori’n llawn. Mae'n hanfodol felly ein bod hefyd yn clywed lleisiau a phrofiadau menywod amrywiol er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau.”

Cerys Furlong
Meddai Prif Weithredwr Chwarae Teg

“Mae adroddiad Chwarae Teg yn gyfle i ni bwyso a mesur, asesu’r cynnydd a wnaed yng Nghymru tuag at sicrhau cydraddoldeb a pharhau â’n hymgyrch i fod yn fwy uchelgeisiol o ran gwella bywydau pob menyw a merch.

“Ledled Cymru rydym yn gwneud pob math o waith sy'n hyrwyddo ein hymrwymiad i greu cymdeithas decach – sy’n gwerthfawrogi ac yn parchu amrywiaeth a lle nad yw pobl yn wynebu gwahaniaethu a rhagfarn.

“Mae ein Hadolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol wedi creu map ffordd er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn y tymor byr, canolig a hir ar draws pob rhan o Lywodraeth Cymru; rydym yn ymchwilio ac yn cydweithio'n agos gyda rhanddeiliaid ledled Cymru er mwyn cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, ac rydym wedi ymrwymo i ddechrau'r Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol sy'n ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried sut y gallai eu penderfyniadau strategol helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

“Mae gennym ddeddfwriaeth gydraddoldeb sy’n arwain y byd ar waith, ac mae cynnydd wedi’i wneud, ond mae bob amser fwy i’w wneud er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu ffynnu a chyflawni eu potensial.”

Jane Hutt
Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
28th Jan 2020
State of the Nation
Research