Cyflwr y Genedl 2021: Cyflawni Cymru sy’n Gyfartal o ran Rhywedd - Beth sy'n Gweithio?

8th February 2021

Yn 2020, cafodd Covid-19 effaith ddramatig ar y ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu. Yn ddi-os, mae rhai grwpiau wedi cael eu taro’n galetach nag eraill, gan gynnwys menywod, pobl BAME, pobl ifanc, pobl anabl, a’r rhai sy’n byw ar incwm isel. Mae effeithiau iechyd ac economaidd y pandemig wedi effeithio’n anghymesur arnynt i gyd. Mae bywydau llawer o unigolion wedi newid oherwydd effeithiau Covid-19, gan gynnwys profedigaeth, colli swydd, unigedd, straen, pryder a mwy, a fydd yn effeithio ar fywydau am flynyddoedd lawer.

Mae Chwarae Teg wedi bod yn cyhoeddi adroddiad Cyflwr y Genedl yn flynyddol ers 2018 pan nododd Llywodraeth Cymru ei gweledigaeth i wneud Cymru yn un o arweinwyr y byd o ran cydraddoldeb rhywed. Mae’r adroddiadau’n edrych ar sut mae economi Cymru yn perfformio o ran cydraddoldeb rhywedd yn erbyn y tri dangosydd allweddol hyn: menywod yn yr economi, cynrychiolaeth menywod, menywod mewn perygl. Heddiw rydym yn cyhoeddi’r adroddiad diweddaraf fel y gallwn fonitro cynnydd, neu ei ddiffyg, tuag at nod Llywodraeth Cymru, ac fel y gallwn sicrhau nad oes unrhyw un yn hunanfodlon ynglŷn â’r angen am weithredu parhaus ac ymdrech i sicrhau gwir gydraddoldeb rhywedd i bob menyw.

Mae adroddiad Cyflwr y Genedl Chwarae Teg yn edrych ar brofiadau menywod mewn gwaith a’r economi, tlodi, unigedd cymdeithasol, a chaledi yn ogystal â phrofiadau menywod o ran aflonyddu, camdriniaeth a thrais; ac mae’n monitro pwy sydd â grym yng Nghymru, a phwy sy’n ein cynrychioli ni i gyd.

Eleni mae’r adroddiad yn dangos gwelliant o ran y Bwlch Cyflog ar sail Rhywedd, gyda gostyngiad o 14.5% i 11.6%; fodd bynnag, ni all y ffigur hwn yn unig adrodd hanes llawn effaith argyfwng Covid-19 ac nid yw bob amser yn cyflwyno darlun llawn o’r prif faterion y mae menywod yn eu hwynebu.

Gwyddom eisoes, drwy adroddiad ymchwil Chwarae Teg Covid-19: Menywod, Gwaith a Chymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, y bu rhaid i fenywod wynebu anghydraddoldebau amlwg yn ystod y pandemig. Mae menywod ddwywaith mor debygol â dynion o fod yn weithwyr allweddol yng Nghymru ac mae effaith cau sectorau, cau busnesau, a diweithdra yn syrthio’n anghymesur ar ysgwyddau menywod gan eu bod 5% yn fwy tebygol na dynion o fod wedi colli eu swyddi oherwydd Covid-19.

Mae’r pandemig hefyd wedi dangos ein dibyniaeth ar waith gofal di-dâl menywod, gyda menywod yn dwyn baich gofal plant ychwanegol ac addysgu gartref drwy gydol y cyfnod. Mae hyn wedi effeithio’n fawr ar eu gwaith cyflogedig a gallai fod â goblygiadau hirdymor o ran eu cyflogaeth a’u dilyniant gyrfa.

Gan gysylltu â hyn, mae Cyflwr y Genedl 2021 yn dangos bod menywod yn parhau i fod bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar oherwydd cyfrifoldebau gofalu am deulu a’r cartref na dynion, ar 26% o gymharu â 6.5%.

Yng Nghymru mae 86% o rieni sengl yn fenywod, sef yr aelwydydd sydd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tlodi o bell ffordd, ac mae menywod yn llawer mwy tebygol o weithio’n rhan-amser ar 40.1% o gymharu ag 11.8% o ddynion.

Mae ffigurau Credyd Cynhwysol yn llwm hefyd – sy’n ddealladwy o ystyried Covid-19. Er bod cyfran y menywod sy’n hawlio wedi gostwng ychydig o ffigurau’r llynedd, yn gyffredinol mae nifer y bobl sy’n hawlio wedi codi’n aruthrol – cynnydd o 107% o 2019, gyda chynnydd mwy yn nifer y dynion sy’n hawlio. Ac eto, mae mwy o fenywod sy’n hawlio yng Nghymru yn debygol o fod mewn cyflogaeth, 43% o gymharu â 33% o ddynion.

Mae’r ffigurau hyn yn amlygu risg wirioneddol, wrth i ni symud allan o’r pandemig tuag at adferiad, mai menywod fydd y rhai olaf i ddychwelyd i’r farchnad lafur.

Mae hefyd yn bwysig ein bod yn ystyried sut mae menywod yn cael eu cynrychioli mewn bywyd cyhoeddus – yn enwedig o ystyried ein bod lai na 100 diwrnod i ffwrdd o etholiadau arfaethedig y Senedd. Mae Cyflwr y Genedl 2021 yn dangos bod menywod yn dal i gael eu tangynrychioli’n eang, yn enwedig ar lefel wleidyddol leol, gyda ffigurau sy’n peri gofid yn dod i’r amlwg o ran penodi menywod i swyddi cyhoeddus – sydd wedi gostwng o 64% i 43.1%, a phenodi menywod yn gadeiryddion wedi gostwng o 56% i dan 5%.

Yn gyffredinol, mae adroddiad eleni wedi tynnu sylw at effaith yr anghydraddoldebau dwfn sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymdeithas. Mae’r rhain wedi cael eu hamlygu a’u gwaethygu gan Covid-19 ac wedi dangos yr angen dybryd i fynd i’r afael â nhw o’u gwraidd.

Mae’r Maniffesto ar gyfer Cymru sy’n Gyfartal o ran Rhywedd gan Chwarae Teg yn nodi polisïau a chamau gweithredu clir y dylid eu mabwysiadu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a amlygir yn yr adroddiad hwn. Mae ein maniffesto’n nodi bod yn rhaid i unrhyw ddull a gymerir fod yn rhyngblethol ac rydym yn bendant ynglŷn â’r argymhelliad hwn. Dull sy’n cydnabod sut mae nodweddion fel rhywedd, hil, ethnigrwydd, ffydd, anabledd, oedran, rhywioldeb a dosbarth yn parhau i ddylanwadu ar fynediad at bŵer, dylanwad, adnoddau a braint.

Dangosir hyn yn ffigurau Cyflwr y Genedl sy’n ymwneud ag anweithgarwch economaidd, sy’n dangos, er bod menywod yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na dynion, fod menywod o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na menywod gwyn, ar 25.6% o gymharu â 39.7%.

Mae awydd i wneud pethau’n wahanol wedi bod yn un o gonglfeini Cymru ddatganoledig, ac ansawdd yn egwyddor arweiniol wrth sefydlu Senedd Cymru. Ond ni fydd polisïau a gwleidyddion newydd yn unig yn sicrhau’r newidiadau sydd angen i ni eu gweld. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom wrth i ni adfer ar ôl Covid-19, i feddwl ar fwy o frys ac yn fwy radical am yr hyn y gallwn i gyd ei wneud, a sut y dylem ei wneud, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni Cymru wirioneddol gyfartal o ran rhywedd i bawb, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

28th Jan 2020
State of the Nation
Research
8th Feb 2021
State of the Nation 2021: Leading charity measures progress towards delivering a gender equal Wales
Post