Cyflwr y Genedl 2021: Elusen flaenllaw yn mesur cynnydd tuag at gyflawni Cymru sy'n gyfartal o ran rhywedd

8th February 2021

Mae prif elusen Cymru ar gyfer cydraddoldeb rhywedd, Chwarae Teg, wedi rhybuddio yn erbyn hunanfodlonrwydd yn y frwydr i sicrhau cenedl decach, wrth i ni edrych tuag at adfer o effeithiau Covid-19.

Yn ei hadroddiad blynyddol ar Gyflwr y Genedl, a gyhoeddwyd heddiw (8.2.21), mae Chwarae Teg yn amlinellu’r cynnydd a wnaed yng Nghymru o ran dod yn genedl gyfartal o ran rhywedd ac yn archwilio profiadau menywod yn yr economi, eu cynrychiolaeth a’r rhai sydd mewn perygl.

Eleni, mae’r ffigurau’n dangos gostyngiad cadarnhaol yn y bwlch cyflog ar sail rhywedd o 14.5% i 11.6% yng Nghymru, ond mae hyn yn gwrthgyferbynnu â ffigurau sy’n peri gofid o ran penodi menywod i swyddi cyhoeddus sydd wedi gostwng o 64% i 43.1%, a gostyngiad o ran penodi menywod yn gadeiryddion o 56% i dan 5%.

Yn gyffredinol, mae’r data a nodir yn yr adroddiad yn rhoi darlun cymysg iawn, nad yw, ar hyn o bryd, yn gallu rhagweld gwir effaith Covid-19 ar gydraddoldeb rhywedd.

Mae ymchwil i effaith Covid-19 ar fenywod a gynhaliwyd gan Chwarae Teg fis Hydref eisoes wedi amlygu’r anghydraddoldebau amlwg y maent wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig. Mae menywod ddwywaith mor debygol â dynion o fod yn weithwyr allweddol yng Nghymru, yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swyddi ac wedi ysgwyddo’r baich o ran addysg yn y cartref a chyfrifoldebau gofalu.

Mae’r data yn adroddiad Cyflwr y Genedl yn adeiladu ar hyn, gan danlinellu’r rhaniad amlwg mewn meysydd eraill sy’n gysylltiedig â rhywedd. Er enghraifft, mae 26% o fenywod yn nodi ‘gofalu am deulu a’r cartref’ fel rheswm dros fod yn economaidd anweithgar o gymharu â dim ond 6.5% o ddynion; mae 40.1% o fenywod yn gweithio’n rhan-amser o gymharu â dim ond 11.8% o ddynion; ac mae 86% o rieni sengl yn fenywod, a dyma’r aelwydydd sydd fwyaf tebygol o bell ffordd o fyw mewn tlodi.

Mae heriau’n cael eu gwaethygu hefyd gan ffactorau rhyngblethol, gyda menywod o leiafrifoedd ethnig yn llawer mwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na menywod gwyn.

Mae’r mater hwn yn dwysáu’r anfanteision a wynebir gan lawer o fenywod, ac yn amharu’n sylweddol ar eu gallu i gyrraedd eu llawn botensial yn yr economi, i gymryd rhan flaenllaw mewn bywyd cyhoeddus ac i osgoi risg.

Bydd Cerys Furlong, Prif Weithredwr a Dr Hade Turkmen, Partner Ymchwil, Chwarae Teg yn arwain gweminar i randdeiliaid yn ddiweddarach heddiw i archwilio canfyddiadau’r adroddiad, goblygiadau Covid-19 ar ganlyniadau, a chanolbwyntio ar atebion - “beth sy’n gweithio?” wrth fynd i’r afael ag achosion anghyfartaledd rhywedd a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i fenywod.

Mae'r 12 mis diwethaf, oherwydd Covid-19, wedi bod mor gyfnewidiol a dim ond amser a ddengys a oes cywirdeb hirdymor i dueddiadau a ddangoswyd yn adroddiad Cyflwr y Genedl eleni. Fodd bynnag, yr hyn sy'n sicr yw'r angen clir am ffocws ar gydraddoldeb rhywedd wrth i ni adfer. Mae llawer o ffigurau yn ein hadroddiad yn pwysleisio'r risg wirioneddol, wrth i ni symud allan o'r pandemig tuag at adferiad, mai menywod fydd y rhai olaf i ddychwelyd i'r farchnad lafur.

"Rhaid i gynlluniau edrych ar wraidd y problemau sy'n effeithio ar fenywod, y ffordd y mae gwahanol grwpiau wedi cael eu taro'n galetach nag eraill, fel pobl BAME, y rhai ag anabledd neu sy'n byw ar incwm isel, ac ystyried y ffordd orau o sicrhau chwarae teg.

"Os na fyddwn yn mabwydiadu’r dull hwn, yna gallai'r goblygiadau i gyflogaeth a llwybr gyrfa menywod fod yn drychinebus a byddem yn cymryd sawl cam yn ôl yn hytrach na gwneud cynnydd.

"Gydag etholiadau'r Senedd ar y gorwel mae'n hanfodol bod pawb a allai fod yn rhedeg ein cenedl yn y dyfodol yn deall bod cydraddoldeb rhywedd o fudd i bawb. Rhaid iddynt ddangos ymrwymiad gwirioneddol i ailgodi’n gryfach gan ddefnyddio dulliau sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â heriau o ran cydraddoldeb rhywedd, er mwyn sicrhau y gall menywod chwarae rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr Chwarae Teg
28th Jan 2020
State of the Nation
Research
8th Feb 2021
State of the Nation 2021: Delivering a Gender Equal Wales - What Works?
Post