Mae elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw Cymru, Chwarae Teg, yn galw am weithredu i gyflymu’r newid er mwyn gwneud Cymru’n genedl gyfartal o ran rhywedd.
Yn ei adroddiad blynyddol ar Gyflwr y Genedl, a gyhoeddir heddiw (6.02.23), mae Chwarae Teg yn amlinellu’r cynnydd a wnaed yng Nghymru o ran dod yn genedl gyfartal o ran rhywedd ac yn archwilio profiadau menywod yn yr economi, eu cynrychiolaeth a’r rhai sydd mewn perygl. Fel rhan o rifyn eleni, Mae Chwarae Teg hefyd wedi cynhyrchu Adolygiad Pum Mlynedd yn olrhain tueddiadau dros y pum mlynedd diwethaf.
Ers y Cyflwr y Genedl cyntaf a gyhoeddwyd yn 2019 prin iawn oedd y rhai a fyddai wedi gallu rhagweld heriau pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw. Mae effaith lawn yr argyfyngau hyn yn dal yn aneglur ond mae un ffactor wedi bod yn gyson dros y pum mlynedd diwethaf – anghydraddoldeb.
Er bod cynnydd wedi bod mewn rhai meysydd, y dylid eu dathlu wrth gwrs, mae’r cynnydd hwn yn eithaf ymylol mewn sawl ffordd. Rydym yn dal i aros am weld newid gwirioneddol mewn sawl maes.
Ers 2019, rydym wedi gweld y bwlch cyflog ar sail rhywedd yn cau ychydig i 11.3% ar hyn o bryd. Mae mwy o fenywod bellach mewn cyflogaeth, mae cyfran lai yn segur yn economaidd am eu bod yn gofalu am y teulu neu’r cartref, ac mae cyfran y menywod sy’n gweithio’n rhan amser wedi lleihau. Ond, mae menywod yn dal i fod yn llai tebygol o fod mewn gwaith na dynion, yn fwy tebygol o fod allan o’r farchnad lafur oherwydd cyfrifoldebau gofalu ac ennill llai na dynion. I fenywod sydd â nodweddion gwarchodedig ychwanegol, mae’r canlyniadau hyn hyd yn oed yn waeth.
Yn anffodus, mae lefel risg menywod yn ymddangos yn ddigyfnewid i gryn raddau. Mae cael darlun cywir o ba mor gyffredin yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i fod yn her. Ond yr hyn y gallwn ei weld yw nad ydym yn gwneud fawr iawn o gynnydd o ran dileu trais yn erbyn menywod, ac mae gwasanaethau arbenigol dan bwysau aruthrol yn wyneb y galw cynyddol a’r argyfwng costau byw.
Eleni, cyhoeddir Cyflwr y Genedl yng nghanol yr argyfwng costau byw. Argyfwng sydd eisoes yn effeithio’n anghymesur ar fenywod, yn enwedig y rhai o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl a menywod ar incwm isel. Dydy hyn ddim yn anochel, ond yn ganlyniad uniongyrchol yr anghydraddoldeb parhaus y mae adroddiad Cyflwr y Genedl yn tynnu sylw amlwg ato.
Unwaith eto, mae Cyflwr y Genedl yn dangos sut mae nodweddion fel rhywedd, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oedran a ffydd yn rhyngweithio’n aml i greu profiadau niferus o anfantais. Er mwyn creu Cymru fwy cyfartal, mae angen i ni ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf ar y cyrion yn gyntaf; y menywod sy’n wynebu’r rhwystrau a’r anfantais fwyaf.
Ni fydd unrhyw un actor yn gallu mynd i’r afael â’r materion cymhleth a rhyngberthynol niferus sy’n creu’r anghydraddoldeb hwn. Mae angen iddi fod yn genhadaeth wirioneddol genedlaethol, lle mae’r llywodraeth, byd busnes ac unigolion i gyd yn chwarae rhan weithredol o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
Bydd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymuno ag Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg, Natasha Davies a’r Partner Ymchwil, Dr Hade Turkmen, i drafod prif ganfyddiadau eleni mewn gweminar ar gyfer rhanddeiliaid yn ddiweddarach bore heddiw.