Sut rydym yn sicrhau bod lleisiau menywod duon ac Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig (BAME) a menywod anabl yn llywio polisïau yng Nghymru? Pam nad ydym yn gwerthfawrogi’r gwaith di-dâl y mae menywod yn fwy tebygol o fod yn ei wneud? Dyma’r cwestiynau allweddol a ofynnir gan fynychwyr ein digwyddiad Cyflwr y Genedl ym mis Ionawr.
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn dod â chydweithwyr o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat at ei gilydd i drafod perfformiad Cymru yn erbyn dangosyddion cydraddoldeb rhywiol allweddol. Ym mis Ionawr, roeddem yn falch o groesawu dros 50 o fynychwyr i Community House yng Nghasnewydd i ystyried adroddiad Cyflwr y Genedl eleni, ac i drafod problem tlodi menywod yng Nghymru.
Mae ein hadroddiad ar gyfer 2020 yn dangos darlun cymysg. Cafwyd rhai newidiadau cadarnhaol ers 2019 – mae cyfradd gyflogaeth menywod wedi gwella, mae cyfran y menywod sydd mewn swyddi arwain mewn cynghorau lleol wedi gwella, ac mae nifer yr Aelodau Seneddol benywaidd wedi codi. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi gweld y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cynyddu, cafwyd bron dim newid o ran y gyfran o fenywod sy’n gweithio’n rhan-amser, ac mae cyfran fawr o fenywod nad ydynt yn gallu cael mynediad at gyflogaeth o hyd oherwydd cyfrifoldebau gofalu.
Er ei fod yn bwysig, bydd data ystadegol ond yn adrodd rhywfaint o’r stori, yn arbennig ar gyfer grwpiau llai o fewn y boblogaeth. Felly, rhan bwysig o’n digwyddiad Cyflwr y Genedl yw clywed lleisiau gwahanol fenywod, ac ystyried yr heriau a chyfleoedd gwahanol y maent yn eu hwynebu, gyda gwybodaeth gan arbenigwyr sy’n gweithio o fewn cymunedau gwahanol. Eleni roeddem yn falch o gael cwmni Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST); Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru; a Claire Cunliffe, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth Oxfam Cymru.
Canolbwyntiodd y trafodaethau ar nifer o faterion allweddol:
- Absenoldeb profiadau unigryw rhai menywod, fel menywod duon ac Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig (BAME) a menywod anabl, o’r drafodaeth ar gydraddoldeb rhywiol. Tra bo ffocws ar ddulliau lle ceir rhyngblethedd yn bwysig, ni all hyn arwain at brofiadau grwpiau gwahanol yn cael eu hanwybyddu neu eu tanseilio.
- Y canlyniadau sy’n waeth o lawer ar gyfer menywod BAME ac anabl a amlygir yn adroddiad Cyflwr y Genedl, nid yn unig o ran bwlch rhwng menywod a dynion, ond hefyd o’u cymharu â menywod gwyn a’r rhai nad ydynt yn anabl.
- Y modd diffygiol a ddefnyddir gennym i fesur gweithgarwch economaidd. Mae ieithwedd “anweithgarwch economaidd” yn methu cydnabod gwerth economaidd y gwaith di-dâl y mae menywod yn bennaf yn ei wneud.
- Yr angen am newid diwylliannol sylweddol i ddileu’r aflonyddu a’r gamdriniaeth y mae menywod yn eu hwynebu. Er bod adrodd am drais rhywiol yn cynyddu, mae erlyniadau ar lefel is nag erioed. Ceir hefyd faterion cynyddol o ran menywod yn profi gweithredoedd anghydsyniol yn ystod cyfarfyddiadau rhywiol cydsyniol, ac mae agwedd yn parhau bod aflonyddu menywod yn rhan o noson allan arferol.
Yn ogystal, awgrymodd mynychwyr nifer o atebion i’r heriau hyn, y byddwn yn eu hadlewyrchu o fewn ein polisi a’n gwaith dylanwadu. Roedd argymhellion yn cynnwys: cynyddu’r data a thystiolaeth sydd ar gael sy’n cefnogi gwaith dadansoddi o safbwynt rhyngblethedd, gwneud defnydd gwell o ysgogiadau presennol fel gweithredu cadarnhaol, ac i gyflogwyr gasglu data er mwyn deall lle y gellid bod problemau o fewn eu gweithleoedd eu hunain. Galwodd mynychwyr hefyd am fwy o waith i gyd-gynhyrchu datrysiadau er mwyn sicrhau bod lleisiau’r rheini â phrofiad byw o wahaniaethu ac anghydraddoldeb yn cael eu clywed, a Deddf Hawliau Dynol i Gymru er mwyn i gryfhau hawliau a chydraddoldeb ymhellach yng Nghymru.
Mae trafodaethau fel y rhain – sy’n torri ar draws sectorau a meysydd profiad – yn hanfodol ar gyfer cynnal proses effeithiol o wneud penderfyniadau a chraffu. Trwy ddod â phobl â safbwyntiau gwahanol at ei gilydd, gellir nodi heriau a datrysiadau gwahanol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd tuag at gydraddoldeb ar gyfer pawb yng Nghymru.