Cyhoeddwyd teilyngwyr Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022

14th July 2022
Mae seremoni wobrwyo flaenllaw yng Nghymru, sy’n dathlu llwyddiannau menywod ar draws y genedl, wedi cyhoeddi ei deilyngwyr ar gyfer 2022.

Bydd Gwobrau Womenspire Chwarae Teg, a noddir gan Vauxhall Finance, yn cydnabod cyflawniadau o bob cefndir. Bydd y teilyngwyr yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, gyda’u llwyddiant yn cael ei arddangos drwy’r categorïau gwobrau canlynol:

  • Pencampwriag Gymunedol, noddir gan Tiny Rebel
  • Cysylltydd Cymunedol – i gydnabod menyw sydd ag anabledd dysgu, noddir gan Mencap Cymru
  • Entrepreneur, noddir gan Banc Datblygu Cymru
  • Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd
  • Arweinydd, noddir gan Business in Focus
  • Dysgwr, noddir gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru
  • Seren Ddisglair, noddir gan Target
  • Menyw mewn Iechyd a Gofal, noddir gan AaGIC
  • Menyw mewn Chwaraeon, noddir gan Chwaraeon Cymru
  • Menyw mewn STEM, noddir gan ABPI
  • Cyflogwr Chwarae Teg - ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio tuag at wneud cydraddoldeb rhywedd yn realiti, noddir gan Hodge

Gellir gweld manylion yr holl teilyngwyr haeddiannol ar gyfer Gwobrau Womenspire Chwarae Teg yn: chwaraeteg.com/teilyngwyr.

Bellach yn eu seithfed flwyddyn bydd y gwobrau, am y tro cyntaf erioed, yn dod yn ddigwyddiad hybrid. Cynhelir ar 29 Medi yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, tra’n cael eu darlledu ar-lein ar yr un pryd gan bartner cyfryngau Womesnpire, ITV Cymru, drwy ei Face Book Byw a Thrydar.

Dim ond yn ‘rhithwir’ y mae’r digwyddiad wedi’i gynnal am y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd Covid-19, ond bydd yn ôl gyda chlec - gydag Andrea Byrne yn cynnal noson epig o straeon ac adloniant ysbrydoledig.

Mae Womenspire yn seremoni wobrwyo fel dim arall. Mae’r teilyngwyr yn cael eu cydnabod am gyflawniadau o bob agwedd ar fywyd ac yn dod o ledled Cymru, ond eto mae ganddyn nhw i gyd rywbeth yn gyffredin iawn – maen nhw i gyd wedi mynd y tu hwnt i hynny i wneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i'w bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill. Rydyn ni am daflu goleuni ar eu cyflawniadau rhyfeddol, gan eu bod mor aml yn gallu mynd heb sylw. Yn Chwarae Teg rydyn ni am gymeradwyo'r hyn maen nhw wedi'i wneud, a'u harddangos fel modelau rôl.

“Mae’n teimlo’n arbennig iawn eleni gan y bydd ein teilyngwyr yn gallu ymuno â ni’n bersonol tra bydd rhith gynulleidfa o filoedd yn cael rhannu’r noson gyda ni o gysur eu cartrefi neu weithleoedd eu hunain.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr, Chwarae Teg