“Petai bobl ond yn deall cymaint y mae’n gallu dinistrio’ch bywyd o ran eich hyder a’ch gallu i deimlo eich bod mewn gwirionedd yn fod dynol gweithredol a gwerthfawr” - cyfrannwr i’r ymchwil.
Mae Chwarae Teg wedi cyhoeddi ymchwil i brofiadau menywod anabl mewn gwaith ac o fewn economi Cymru.
Mae’r adroddiad yn datgelu maint y gwahaniaethu sy’n dal i fodoli tuag at bobl anabl, o ran cael eu cyflogi, a thriniaeth a chefnogaeth o fewn gwaith.
Dywedodd bron i hanner y menywod anabl a gymrodd ran yn yr arolwg (47%) fod ceisiadau am swyddi a phrosesau cyfweld yn anhygyrch. Fodd bynnag, nid oes ateb sy’n addas i bawb a fyddai’n gwneud recriwtio yn fwy hygyrch a chynhwysol i bob ymgeisydd.
“Hyd yn oed pan fyddwch chi’n mynd am gyfweliad am swydd ac rydych chi’n dweud eich bod mewn cadair olwyn, ac [maen nhw’n dweud] ‘ydyn, rydyn ni’n hygyrch’. Gallwch chi fynd drwy’r drws, ond yna maen nhw’n rhoi bwrdd i chi na allwch chi ei gyrraedd” - cyfrannwr i’r ymchwil.
Mae rhagdybiaethau ynghylch gallu ac anghenion pobl anabl yn gallu bod yn niweidiol ac yn ddi-fudd. Mae hyblygrwydd, didwylledd a dealltwriaeth yn hanfodol er mwyn i fenywod anabl symud ymlaen yn eu gwaith. Y profiadau mwyaf cadarnhaol o waith a ddaeth i’r amlwg yn yr ymchwil oedd y rhai ble’r oedd addasiadau addas, cyfathrebu da â rheolwyr, a chyflogwyr oedd agored ac yn barod i addasu i anghenion gweithwyr anabl. Ni ellir cyflawni hyn heb wrando ar leisiau a phrofiadau menywod anabl.
Casglodd yr adroddiad brofiadau menywod a dynion anabl mewn gwaith, a daeth i’r amlwg fod profiadau menywod a dynion yn ymrannu ac y gwahaniaethu mewn rhai meysydd.
Er enghraifft, roedd ychydig yn llai o ddynion anabl na menywod anabl wedi wynebu rhagfarn neu agweddau amhriodol gan eu cyflogwr a/neu gydweithwyr am eu nam neu eu cyflwr iechyd (42% o’i gymharu â 58%).