Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg yn Hydro Aluminium

28th June 2022
Mae merched o Ysgol Uwchradd Bedwas wedi dathlu ‘Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg’ mewn digwyddiad arbennig Nid Jyst i Fechgyn yn Hydro Aluminium yng Nghaerffili.

Mae Nid Juyst i Fechgyn, sy’n cael ei redeg gan Chwarae Teg, wedi’i gynllunio i helpu merched i ddarganfod mwy am wahanol yrfaoedd na fyddent yn cael eu hystyried yn draddodiadol fel opsiynau i fenywod, cyn iddynt ddewis eu pynciau TGAU.

Trwy brofi diwrnod ym mywyd Hydro Aluminium maent wedi gallu darganfod yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant peirianneg.

Aeth y disgyblion ar daith o amgylch gweithle Hydro Aluminium, a oedd yn arddangos yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael a chawsant gyfle i roi cynnig ar weithgareddau a gweithdai crefft cyffrous ar draws y sector peirianneg.

Rhannodd modelau rôl o fewn Hydro eu teithiau gyrfa trwy sesiwn Holi ac Ateb a orffennodd y digwyddiad, gan alluogi’r merched i ddysgu am y rolau amrywiol o fewn peirianneg a sut i gael mynediad atynt trwy brentisiaethau a llwybrau cymhwyster eraill.

Roedd ymatebion disgyblion yn cynnwys:

“Mae wedi bod yn dda iawn ac yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae wedi agor fy llygaid i gyfleoedd eraill”

“Rwy’n sylweddoli nawr bod llawer mwy i beirianneg a llawer mwy o fathau o swyddi ym maes peirianneg nag a sylweddolais erioed o’r blaen.”

Yn Chwarae Teg rydym am ddangos i ferched na ddylai eu dyheadau gyrfa gael eu cyfyngu gan rywedd, felly roeddem yn falch iawn o weithio gyda’r cwmni diwydiannol blaenllaw Hydro Aluminium a myfyrwyr gwych Ysgol Uwchradd Bedwas i gyfleu’r neges hon a dangos eu bod yn GALLU EI WNEUD.

"Mae ein hymchwil ein hunain wedi dangos bod 87% o ferched yn teimlo eu bod yn cael eu gwthio i mewn i opsiynau gyrfa ystrydebol. Hefyd mae arolygon sy’n dangos mai dim ond 11% o weithlu peirianneg y DU sy’n fenywod – y ganran isaf yn Ewrop.

"Mae’r materion hyn yn hanfodol i fynd i’r afael â nhw, yn enwedig gan fod diwydiannau STEM yn sectorau twf uchel, gyda chyflogau uwch a chyfleoedd gwell ar gyfer camu ymlaen, felly mae angen i ferched wybod nad ydyn nhw ar gyfer bechgyn yn unig!

Emma Tamplin
Rheolwr Cydweithredu, Chwarae Teg

Mae’n hanfodol ein bod yn denu mwy o fenywod i’r swyddi yn ein gweithle ac i’r diwydiant cyfan. Yn Hydro mae gennym ffocws clir ar wneud hynny ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod menywod yn cael profiad cadarnhaol gyda ni ac yn dysgu am y teithiau gyrfa sydd ar gael iddynt.

“Roedd cael y disgyblion yma wedi ein galluogi ni i ddangos yr amrywiaeth sydd ar gael, a gobeithio ei fod wedi eu gwneud yn ymwybodol o hynny ac wedi eu hysbrydoli i ystyried gyrfa mewn STEM.

Lara Baldwin
Partner Busnes AD, Hydro Aluminium UK Ltd