Pwysigrwydd hygyrchedd

4th January 2021

Diwrnod Braille y Byd

Pwysigrwydd hygyrchedd

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Braille y Byd, mae’n werth atgoffa ein hunain o fanteision byd hygyrch. Yn fy musnes innau, byddech yn disgwyl i mi ganolbwyntio ar faterion hygyrchedd i bobl â nam ar eu golwg. Fodd bynnag, mae llawer o egwyddorion arfer hygyrchedd da a manteision gweithredu’r rheini’n berthnasol i ystod eang o bobl a sefyllfaoedd.

Ar gyfer unigolion

Yn aml, nid yw gwahaniaethu ar sail anabledd yn faleisus nac yn fwriadol. Weithiau mae o ganlyniad i ragfarn anymwybodol, weithiau oherwydd diffyg gwybodaeth ac addysg, ac ar adegau eraill ofn gwneud neu ddweud y peth anghywir rhag ofn tramgwyddo. Mae llawer o bobl â nam ar eu golwg yn dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi’u hymyleiddio oherwydd rhagdybiaethau am eu cymwyseddau, ac oherwydd agweddau ac ymddygiad y bobl y maent yn eu cyfarfod. Ynghyd â’r rhwystrau corfforol y mae llawer o bobl ag anableddau yn eu hwynebu bob dydd, nid yw’n syndod bod cysylltiad cryf â materion iechyd meddwl ychwanegol. Gwneud ein cymuned yn fwy hygyrch yw’r peth iawn i’w wneud i’r holl unigolion sy’n ei rhannu â ni.

Ar gyfer cymdeithas

Ychydig iawn o ‘addasiadau rhesymol’ sydd ar gyfer hygyrchedd sy’n gwneud sefyllfa’n llai hygyrch i rywun arall. Mae gwella gwelededd rhwystrau neu lwybrau cerdded o fudd i’r henoed a rhieni neu warcheidwaid plant ifanc gymaint ag unrhyw un sydd â nam corfforol neu synhwyraidd. Nid yw ychwanegu capsiynau neu ddehonglwr i fideo yn ei ddifetha i’r rheini ohonom nad oes gennym nam ar ein clyw, ond gallant fod o fudd i ystod lawer ehangach o’n cymuned sydd ag anghenion cyfathrebu eraill. Ac rydyn ni gyd yn mwynhau gwylio’r dehonglwyr ar y llwyfan gyda’r artistiaid yn ein hoff wyliau ,onid ydyn ni? Y peth pwysig yw cynnwys hygyrchedd o’r cychwyn cyntaf. Fel hynny, nid yw unigolion yn teimlo eu bod ar yr ymylon neu’n gorfod dechrau ymgyrch dim ond i gael mynediad at wybodaeth am eu cymuned.

Ar gyfer gwaith

Mae digon o ddata ymchwil ar gael erbyn hyn i bawb gytuno bod gweithlu amrywiol o fudd mawr i sefydliad. I fusnesau masnachol, mae bonws o ddenu mwy o gwsmeriaid sy’n gweld bod aelodau o’r staff yn adlewyrchu eu diwylliant neu eu hamgylchiadau eu hunain. I unrhyw sefydliad, mae’n fantais gwybod eich bod yn debygol o fod yn gwneud penderfyniadau strategol gwell a mwy gwybodus pan fyddwch yn cynnwys pobl amrywiol. Dengys ymchwil fwyfwy, pan fydd cyflogeion yn parchu ac yn rhannu gwerthoedd cyflogwr gwybodus, mae boddhad swyddi a chynhyrchiant yn cynyddu, fel y mae cadw gweithwyr. Ar yr un pryd, mae absenoldeb yn lleihau yn ddramatig. Mae cymaint o fanteision!

Am hwyl

Mae pawb angen rhywbeth sy’n gwneud iddyn nhw wenu yn eu bywyd. Nid merched yn unig sydd eisiau cael hwyl. Ac, mae hwyl i amrywiaeth o bobl yn golygu amrywiaeth o bethau. Mae rhai pobl yn mwynhau chwaraeon, naill ai drwy wylio neu drwy gymryd rhan. Mae rhai pobl yn mwynhau gwylio ffilmiau, darllen neu wrando ar gerddoriaeth. Does dim cyfyngiadau ar yr hyn y gallai pobl fwynhau ei wneud yn eu hamser hamdden. Yn yr un modd, mae’r un ystod o hoff bethau’n berthnasol i bobl ag anableddau. Mae gwelededd para-chwaraeon y dyddiau hyn yn neges rymus iawn i bob un ohonom sy’n dangos yr hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn addasu’r byd i weddu i alluoedd eraill.

Cynheswyd fy nghalon yn ddiweddar pan ges i neges diolch gan elusen fach yr ydym yn ei chefnogi. Roedden nhw wedi gofyn i ni eu helpu i ysgrifennu llythyrau Siôn Corn at rai o’r plant maen nhw’n eu cefnogi. Anfonon nhw’r llythyrau atom a chrëwyd y gwahanol fformatau yr oedd eu hangen ar y plant unigol i allu darllen eu llythyr eu hunain gan Siôn Corn yn annibynnol. Roedd y lluniau’n bleser, ac yn ein hatgoffa y gall pethau bach iawn wneud gwahaniaeth enfawr. Dyna pam mae hygyrchedd yn bwysig.

Erthygl a ysgrifennwyd gan aelod o fwrdd Chwarae Teg, Sharon Williams, i gydnabod Diwrnod Braille y Byd (04.01.21). Sharon yw Rheolwr Gyfarwyddwr Pia, cwmni argraffu arbenigol, sy’n trawsgrifio print i fformatau hygyrch. Penodwyd Sharon yn rheolwr gyfarwyddwr yn 2005, ac mae wedi bod yn allweddol mewn nifer o ddatblygiadau busnes, gan gynnwys sicrhau statws Buddsoddwyr Mewn Pobl. Mae wedi arwain cyfnod o newid mawr, sydd wedi arwain at welliannau enfawr yng ngalluoedd a rhagolygon Pia
17th Dec 2020
“Society is the Disability”: Disabled Women and Work
Post
4th Jun 2020
“Society is the Disability”: Disabled Women and Work
Research