Dull ymarferol i gydraddoldeb yn y gweithle

9th February 2021

Ni ddylai rhyw ddiffinio eich gyrfa - os ydych chi’n angerddol am rywbeth yna byddwch bob amser yn dysgu ac yn cyflawni – ac yn aml, gall prentisiaethau fod y ffordd, meddai Carys Godding, Rheolwr Prosiect Awtomeiddio, Telemetreg a Rheoli, Dŵr Cymru Welsh Water

Yn ddiweddar bum yn Barcelona ar wyliau ac es i i weld y Sagrada Familia, y Basilica enwog a adeiladwyd gan Antoni Gaudi. Wrth gerdded o gwmpas gyda’n tywysydd, deuthum i ddeall pa fath o ddyn oedd Gaudi, er syndod i mi nad oedd yn bensaer ond yn beiriannydd a oedd â thalent am bensaernïaeth.

Dechreuodd y prosiect yn ei 30au cynnar a threuliodd 43 mlynedd o’i fywyd yn dylunio ac adeiladu’r Basilica nad yw wedi’i orffen o hyd. I mi, mae hynny’n rhywbeth mor arbennig, ei fod bob amser yn gwybod na fyddai byth yn gweld canlyniad gorffenedig ei waith creu, ac eto roedd yn dal i fod mor ymroddedig, heb symleiddio na rhuthro’r gwaith adeiladu gan ei fod am iddo fod yn union sut yr oedd wedi’i gynllunio.

Mae ei ddyfyniad enwocaf, sydd y tu mewn i’r adeilad yn dweud: “I wneud pethau’n iawn, yn gyntaf mae arnoch angen cariad, yna techneg”. I mi, mae hon yn neges allweddol i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa mewn peirianneg, yn enwedig merched a menywod ifanc – os yw’n rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud, peidiwch â bod ofn – fe allwch ac fe fyddwch chi’n llwyddo.

Yn 16 oed dechreuais fy ngyrfa fel prentis – ochr yn ochr â’m chwaer Nia fel y ddau beiriannydd benywaidd cyntaf yn hanes gorsaf bŵer Aberddawan.

Rhaid cyfaddef bod hyn nid yn unig yn arbennig ond yn anhygoel o frawychus - mynd i amgylchedd oedd yn cael ei reoli gan ddynion lle nad oeddent erioed wedi cael menywod mewn rôl gyfatebol o’r blaen. I ddechrau bu gwrthwynebiad mawr gan y timau, ond dros amser dechreuodd rhai o’r peirianwyr weld ein potensial, a bod ein galluoedd yn gyfartal â galluoedd unrhyw ddyn.

Cafodd rhwystrau eu chwalu’n araf a dechreuom feithrin perthnasoedd. Trodd diystyru ac anwybyddu yn fentora ac edrych ar ein holau. Ar ôl pedair blynedd cwblheais fy mhrentisiaeth dechnegol a deuthum yn Dechnegydd Offeryniaeth a Rheoli ac roedd gennym dros 100 o dadau yn y gweithlu!

Yn y pen draw symudais at Ddŵr Cymru lle rwyf wedi datblygu eto, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Rheolwr y Prosiect Rheoli, Awtomeiddio a Thelemetreg ac rwyf wedi bod yn gyfrannwr ac yn gefnogwr allweddol i’r rhaglen Graddedigion Technegol. Dyfarnwyd Dŵr Cymru yn ‘Gyflogwr gorau yn y Sector Ynni a Chyfleustodau’ gan Wobrau Ymadawyr Ysgol 2020′ ac mae ganddo raglen brentisiaethau a bleidleisiwyd yn ddiweddar yn ‘Brentisiaeth Ganolradd ac Uwch Orau’.

Dylai prentisiaethau gael eu hannog gan ein hysgolion, ein cymunedau a’n cyflogwyr fel llwybr hyfyw i’r Brifysgol ar gyfer unigolion ifanc. Mae’r rhaglen brentisiaid yn ffordd wych i unigolion ifanc sydd am fynd i mewn i’r amgylchedd gwaith, tra’n parhau i ddatblygu eu haddysg hefyd. Yn fy mhrofiad i, gallwch gyrraedd yr un nod terfynol o addysg uwch, gradd, meistr ac yn y blaen ond gyda mantais ychwanegol profiad gwaith ac incwm ariannol.

Rhoddodd y brentisiaeth gyfle i mi ddysgu drwy amgylchedd ymarferol, sydd i mi yn amhrisiadwy i unrhyw swydd ond hyd yn oed yn fwy felly ar gyfer rolau peirianneg a STEM.

Mae cyflogwyr hyd yn oed yn fwy tebygol o gynnig cyfleoedd gwaith ar ddiwedd y rhaglen gan y byddant eisoes wedi buddsoddi yn eich addysg a’ch profiad – rhywbeth sy’n allweddol ar gyfer olyniaeth gweithlu peirianneg.

Oherwydd fy mhrofiadau rwyf bob amser wedi cymryd amser i gefnogi oedolion ifanc, prentisiaid a graddedigion gyda’u teithiau, ac i helpu i ddileu stigma’r ‘amgylchedd gwrywaidd yn unig’ ar gyfer y sector peirianneg. Rwyf wedi mentora menywod mewn peirianneg yn fy ngweithleoedd, wedi bod yn siaradwr mewn digwyddiadau gan gynnwys seremonïau graddio arweinyddiaeth Chwarae Teg, wedi cefnogi Cynlluniau Peirianneg Cymru a hyd yn oed wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru am fy mhrofiadau.

Mae fy ngyrfa ym maes peirianneg wedi bod yn wych, rwyf wedi cael rolau amrywiol iawn, o waith diagnosis namau rheng flaen, i gyflyru a monitro amgylcheddol, i reoli prosiectau, a hyd yn oed profiad rheoli llinell yn ddiweddar.

Gall peirianneg fel gyrfa fod mor amrywiol ac nid yw bob amser y swydd ‘fudr, gwlyb, oer’ y mae’r rhan fwyaf yn meddwl amdani. Mae peirianwyr yn datblygu popeth ac unrhyw beth o’n cwmpas ni bob dydd, o offer chwaraeon, systemau VAR (video action replay), chwaraeon modur gyda cherbydau trydanol i beirianneg feddygol sy’n cynllunio triniaeth feddygol rithwir, aelodau prosthetig ac awyrofod - mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Mae’n galonogol bod mwy o fenywod bellach mewn rolau peirianneg na phan ddechreuais i fy ngyrfa 14 mlynedd yn ôl, ond mae diffyg o hyd, a’n rôl ni yw annog y genhedlaeth nesaf neu’r rhai sy’n newid gyrfa, a allai fod wedi peidio ymuno ag amgylchedd STEM, i wneud y penderfyniad yn awr.

Mae Carys Godding yn Rheolwr Prosiect Awtomeiddio, Telemetreg a Rheoli yn Dŵr Cymru Welsh Water. Yn angerddol am ddysgu a chefnogi eraill i wneud hynny, mae Carys wedi symud ymlaen o fod yn brentis i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Drydanol a derbyniodd Wobr y Dysgwr yn Womenspire Chwarae Teg 2020.