Fforwm Uwch-arweinwyr Cyflogwyr Chwarae Teg – Merched BAME yn yr Economi.

31st October 2019

Ddydd Mercher 16 Hydref, gwnaethom gynnal ein Fforwm Uwch-arweinwyr bob chwe mis, sef digwyddiad unigryw ar gyfer tanysgrifwyr Cyflogwyr Chwarae Teg. Fe’i cynhaliwyd yn Nhŷ’r Cwmnïau – Cyflogwr Chwarae Teg Arian – a dechreuodd y digwyddiad gyda chinio bwffe gwych a sesiwn rwydweithio.

Gwnaethom gyflwyno ein gwaith ymchwil diweddar, ‘Nenfwd Gwydr Triphlyg’, a ysgrifennwyd gan ein hymchwilydd mewnol Dr Hade Turkman. Roedd y cyflwyniad yn cwmpasu canfyddiadau’r adroddiad ac, yn bwysicaf oll, yr argymhellion i fusnesau ar sut gallant gyflogi mwy o fenywod duon ac Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig (BAME).

Roeddem yn freintiedig i groesawu Maria Constanza Mesa, Cyfarwyddwr Women Connect First, a roddodd drafodaeth gyfareddol ar ei thaith fel menyw a ffoadur o liw a ddaeth i Gymru, gan oresgyn nifer o rwystrau i gael swydd arweiniol bwysig yn Women Connect First.

Ar ôl rhoi tipyn i gnoi cul arno i’n gwesteion, cafodd rhan olaf y cyfarfod, sef trafodaeth ddifyr ynghylch y pwnc, ei hwyluso gan ein Prif Weithredwr Cerys Furlong. Roedd y trafodaethau yn amrywio o’r hyn a all gael ei wneud i sicrhau bod menywod BAME yn ein sefydliadau’n cael eu cynnwys yn weithredol, yn ogystal â chydnabod y gwerth pwysig y gall ddod yn sgil amrywiaeth. Cymerodd y drafodaeth drywydd diddorol, gan ganolbwyntio ar sut y gellid helpu merched BAME i deimlo’n rhan o sefydliadau ar ôl cael eu recriwtio, gan gyffwrdd ar yr angen am rwydweithiau, cymryd rhan weithredol mewn arferion gweithio ac ystyried dadwladychu ein sefydliadau.

Diolch i bawb a ddaeth, ac a wnaeth sicrhau bod y digwyddiad mor llwyddiannus. Gwnaethom dderbyn adborth cadarnhaol ac mae gennym awgrymiadau rhagorol ynghylch pynciau i’w trafod yn y dyfodol.

22nd Aug 2019
Triple Glazed Ceiling: Barriers to Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) Women participating in the economy
Research
25th Nov 2018
FairPlay Employer
Project