“Gall pob penderfyniad sy’n cael ei wneud fod gam yn nes at Gymru sy’n gyfartal ar sail rhywedd meddai elusen cydraddoldeb rhywedd” dyna’r neges gan brif weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mae arweinydd yr elusen cydraddoldeb rhywedd yn annog perchnogion busnes, cyflogwyr, llunwyr polisi a gwleidyddion i ymgorffori camau gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn eu penderfyniadau o ddydd i ddydd.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyflwr y Genedl yr elusen fis diwethaf a oedd yn dangos bod cynnydd yn rhwystredig o araf o ran llawer o ddangosyddion cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Mae hyn yn dangos yn glir yr angen i ymgorffori persbectif rhywedd ym mhopeth a wnawn yn ogystal â’r holl gynlluniau a chamau gweithredu ar draws llywodraeth, busnes a chymdeithas.
Roedd data yn yr adroddiad yn dangos bod dau fater yn parhau i fod yn gwbl hanfodol i sicrhau Cymru gyfartal ar sail rywedd – gofal plant a gwaith di-dâl; ac aflonyddu rhywiol, cam-drin a thrais. Dangosodd data eleni hefyd, unwaith eto, sut y gall nodweddion fel rhywedd, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oedran a ffydd ryngweithio gan yn aml greu profiadau lluosog o anfantais.
Mae ymchwil wedi dangos y gall camau i wella cydraddoldeb rhywedd arwain at fanteision lluosog gyda adroddiad Chwarae Teg ei hun o 2018 yn dangos y gallai ychwanegu £13.6biliwn at economi Cymru.