Uno i hyrwyddo cymorth i weithio’n ystwyth

18th June 2020
Mae prif elusen cydraddoldeb rhywiol Cymru a sefydliad ariannol adnabyddus yn cydweithio er mwyn amlygu manteision gweithio’n ystwyth, a allai helpu i gefnogi busnesau yn ystod ac ar ôl Covid-19.

O ystyried yr heriau mae amrywiaeth eang o fusnesau’n eu hwynebu’n ystod y pandemig presennol, mae Chwarae Teg a DWJ Wealth Management yn annog busnesau i geisio cymorth a ariennir a allai leihau’r effeithiau niweidiol maen nhw’n eu hwynebu.

Elwodd DWJ yn fawr o gymryd rhan, yn 2019, yn y Rhaglen Fusnes Cenedl Hyblyg2 sy’n cael ei redeg gan Chwarae Teg ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig ac sydd wedi ei hariannu’n llawn. Fe ddechreuon nhw weithio’n ystwyth ac ennillodd y busnes Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg ‘Arweiniol’.

Drwy eu Rhaglen Fusnes, mae cymorth ac arweiniad Chwarae Teg wedi ein galluogi ni i ymgymryd yn llwyr ag arferion gweithio’n ystwyth. Mae hynny yn sicr wedi ein helpu ni i wynebu’r pandemig anarferol hwn mewn ffordd effeithiol a chadw’r busnes i redeg yn ddi-dor.

"Mae hwn yn gyfnod anodd dros ben i nifer o fusnesau ond weithiau mae hyd yn oed newidiadau bychain yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Y gwir amdani yw bod Chwarae Teg yn darparu cymorth wedi’i ariannu sy’n gallu arwain at ganlyniadau gwirioneddol – felly mae’n werth ei ystyried.

Dywedodd Danni Watts-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr, DWJ Wealth Management
fod y canlyniadau positif yn amlwg:

Ni ellir pwysleisio manteision gweithio’n ystwyth ddigon. Yn ystod y cyfnod clo hwn mae gweithio’n ystwyth wedi galluogi busnesau i barhau ac felly wedi atal pobl rhag colli eu swyddi.”

“Mae ein rhaglen fusnes yn cynnig arweiniad a chyngor helaeth sydd wedi eu teilwra ar gyfer sefydliadau unigol. Ac, am eu bod wedi eu hariannu’n llawn, does dim byd i’w golli a chymaint i’w ennill.

Gemma Littlejohns
Uwch Bartner Busnes, Chwarae Teg

Am ragor o wybodaeth am Raglen Fusnes Cenedl Hyblyg2, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ewch i  chwaraeteg.com/projects/agile-nation-2-business-programme.