Gan mai arfer gorau o ran cydraddoldeb rhywiol yw prif ffocws ein gwaith, roeddem yn meddwl y byddai’n ddiddorol tynnu sylw at y ffordd y mae busnesau wedi mabwysiadu ac addasu eu dull o ymwneud â phethau fel gweithio hyblyg yn ystod pandemig Covid. Felly, aethom at rai o’n cleientiaid rhaglen Fusnes Cenedl Hyblyg 2 i gael eu persbectif nhw ar gyfnodau clo Covid-19. Dyma’u straeon:
Juliet Stephenson - Challenger Business Communications
Ers canol mis Mawrth, mae’r rhan fwyaf o dîm Challenger wedi bod yn glynu wrth ganllawiau’r llywodraeth i weithio o bell, fel gweddill y DU.
Diolch byth, fel busnes sydd â phrofiad o sefydlu prosesau cyfathrebu ar gyfer llawer o sefydliadau sydd ‘ar fynd’, roeddem yn gallu addasu i’r newid hwn yn gyflym iawn.
Dros yr Haf roedd gennym nifer fechan o staff yn dal i fod yn y swyddfa, yn gallu ymbellhau’n gymdeithasol gan ei bod fel arfer yn dal dros 60 o staff. Roedd gweddill y tîm yn gweithio gartref gan ddefnyddio Unity Mobile, cysylltiadau bwrdd gwaith o bell â’r swyddfa ac Office 365 i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd a chyda chwsmeriaid.
O ran ein cwsmeriaid, rydym yn gobeithio nad ydynt wedi gweld unrhyw newid yn ein gallu i ddarparu cymorth cwsmeriaid gwobredig, ac rydym yn gallu cadw mewn cysylltiad â nhw’n union fel y byddem pe byddem yn dal i fod yn y swyddfa. Mae ein Rheolwyr Cyfrifon a’n tîm Cymorth i Gwsmeriaid wedi bod wrth law i siarad â phob busnes yn unigol am yr hyn sydd angen iddynt ei wneud er mwyn dal i weithredu.
Er i’n sgyrsiau cychwynnol weld llawer o gleientiaid wedi sefydlu datrysiadau a chontractau dros dro, rydym eisoes wedi dechrau trafod datrysiadau tymor hwy gyda llawer o sefydliadau gan edrych ar ba brosesau y maent wedi’u mabwysiadu nawr a allai barhau wedi i’r pandemig ddod i ben. Gyda rhai busnesau’n ystyried cadw gweithio o bell fel opsiwn a’r cynnydd byd-eang yn nifer y defnyddwyr ar Microsoft Teams, rydym yn falch iawn o allu helpu ein holl gleientiaid i sicrhau cyfathrebu dibynadwy tra’n addasu eu ffordd o weithio.