Nid Jyst i Fechgyn yn unig y mae gyrfaoedd STEM

25th June 2020
Mae merched o oed ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer y gweminar Nid Jyst i Fechgyn diweddaraf.

Yn cael ei redeg gan Chwarae Teg mewn partneriaeth â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI), bydd y gweminar yn cael ei chynnal rhwng 1pm-2pm ar ddydd Mercher 1 Gorffennaf.

Gyda’i gilydd byddant yn dangos nad Nid Jyst i Fechgyn mae gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Bydd pedair menyw ysbrydoledig sy’n gweithio yn ABPI yn cymryd rhan yn y gweminar ac yn rhoi cyfle i ferched:

  • Darganfod sut beth yw ‘diwrnod ym mywyd’ rhywun sy’n gweithio mewn diwydiant STEM
  • Clywed sut maen ABPI wedi bod yn gweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19
  • Cael eich ysbrydoli gan eu teithiau gyrfa
  • Cael y cyfle i holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’u gyrfaoedd i’r modelau rôl

Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae'r gweminar yma yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol o helpu i sicrhau bod merched yn cael eu hysbrydoli a'u hysgogi, ac yn arddangos gyrfaoedd buddiol mewn diwydiannau STEM.

“Mae diwydiannau STEM yn sectorau twf uchel, gyda chyflogau uwch a gwell cyfleoedd i gamu ymlaen, felly mae angen i ferched wybod nad Dim Jyst i Fechgyn ydyn nhw!

Emma Tamplin
Partner Cydweithredu, Chwarae Teg

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i https://chwaraeteg.com/digwyddiadau/njfb-webinar-abpi/

Bydd Chwarae Teg hefyd yn cynnal gweminar ‘gyrfaoedd STEM yn erbyn COVID-19’ mewn partneriaeth â’r Bathdy Brenhinol ar 16 Gorffennaf, gyda mwy o fanylion ar https://chwaraeteg.com/digwyddiadau/njfb-webinar-royal-mint/.