Gwneud yn fawr o'ch cyfnod ffyrlo

22nd June 2020

‘When life gives you lemons, make lemonade!’ – daw’r dyfyniad hwn gan yr awdur Dale Carnegie, a theimlaf ei fod yn rhoi ystyr cadarnhaol iawn i’r amser digyffelyb ac anarferol hwn yn ystod y cyfyngiadau symud.

I lawer ohonoch chi, efallai eich bod yn y sefyllfa unigryw o fod ar ‘ffyrlo’ o’r gwaith. Ar ôl siarad â nifer o fenywod dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi derbyn rhai negeseuon penodol ynglŷn â’u profiad o’r cyfnod ffyrlo. I rai, mae’n fendith i’w galluogi i fuddsoddi amser i gefnogi eu plant a’u teuluoedd. Fodd bynnag, i bobl eraill mae’n teimlo fel eu bod wedi colli strwythur eu diwrnodau ac maent yn ceisio gwneud yn fawr o’r amser sydd ar gael iddynt.

P’un bynnag o’r rhain sy’n berthnasol i chi, mae’n bwysig i alluogi’ch hun i ddod drwy’r cyfnod hwn yn y ffordd rydych CHI am ei wneud. Dim ond chi sy’n gwybod ac yn deall beth yw eich anghenion personol ac anghenion eich teulu, felly gwnewch bethau eich ffordd chi! Cipluniau’n unig yw’r hyn rydym yn ei weld o fywydau pobl eraill ar y cyfryngau cymdeithasol, ac nid ydynt yn cynrychioli bywyd go iawn. Felly, meddyliwch yn ofalus am sut rydych yn cael eich dylanwadu gan yr hyn rydych yn ei ddarllen ac yn ei wylio. Y realiti yw bod y negeseuon y mae pobl yn eu rhannu yn dangos yr hyn y maent yn dewis i bobl eraill ei weld yn unig, a’r ddelwedd maent am ei chyfleu, ac nid dyma’r darlun llawn. Byddwch yn garedig i chi’ch hun a pheidiwch â rhoi gormod o bwysau ar yr hyn y ‘dylech’ fod yn ei wneud. Mae’n amser i chi feddwl amdanoch chi’ch hun yn gyntaf ac amddiffyn y bobl hynny o’ch cwmpas.

I’r rheiny sy’n chwilio am ffocws a diben i’w diwrnod, mae yna gyfle i gymryd amser o’ch trefn feunyddiol i fuddsoddi ynoch chi’ch hun a’ch datblygiad proffesiynol. Dechreuwch drwy roi peth strwythur i’ch diwrnod, fel y gallwch gael ymdeimlad o gyflawniad i’ch diwrnod, ac ystyriwch osod amser penodol i archwilio meysydd gwahanol:

Amser i fyfyrio

Pa mor aml ydych chi’n eistedd i lawr ac yn ystyried eich gyrfa, yr hyn rydych wedi’i gyflawni hyd yn hyn a’r hyn yr hoffech ei gyflawni yn y dyfodol? Meddyliwch am yr hyn sy’n eich ysgogi, eich gwerthoedd ac ystyriwch a yw’r rhain yn alinio â’r rôl rydych yn ei gwneud ar hyn o bryd. Efallai fod hwn yn gyfle da i wneud peth cynllunio. Ymchwiliwch i’r rolau sydd o ddiddordeb i chi a’r gofynion i ddatblygu yn y maes hwnnw. Nodwch unrhyw fylchau yn eich sgiliau a’ch profiad, ac ystyriwch sut mae modd mynd i’r afael â nhw.

Amser i ddysgu a thyfu

Mae darparwyr hyfforddiant ledled y DU wedi gorfod addasu’n gyflym i fodloni gofynion cadw pellter cymdeithasol. Mae’r cyfleoedd i ddysgu ar-lein yn well nag erioed, a dyma’ch cyfle i brofi’r byd dysgu rhithwir a dysgu sgiliau newydd neu ddatblygu’ch dealltwriaeth o bwnc penodol.

Mae gan wefannau fel www.open.edu/openlearn a www.futurelearn.com gyfoeth o gyrsiau byr am ddim ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc. Efallai y byddwch hefyd yn gweld bod colegau a phrifysgolion yn cynnig rhaglenni dysgu a datblygu am ddim i chi hefyd. Gallwch chwilio ar-lein am y rhain a’r peth gwych yw oherwydd eu bod ar-lein, nid oes rhaid i chi fod yn lleol i gymryd rhan.

Amser i wella’ch proffil

Gall rhwydweithio fod yn fanteisiol iawn i’ch gyrfa, o wneud cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol eraill yn eich maes, i ddatblygu cysylltiadau â chyflogwyr posib yn y dyfodol. Edrychwch ar eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac ailedrychwch ar eich proffil LinkedIn. A yw’n dangos pwy ydych chi, eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch cyflawniadau yn ystod eich gyrfa? Dylech ystyried edrych ar gyfleoedd i ymuno â chyrff proffesiynol sy’n gallu’ch cefnogi yn eich maes gyrfa ac sy’n gallu cynnig rhwydweithio a hyfforddiant penodol.

Amser i ymgorffori Meddylfryd Cadarnhaol

Wrth wynebu sefyllfaoedd anodd a heriol, weithiau gall fod yn anodd gweld y pethau cadarnhaol. Mae cynifer o lyfrau defnyddiol ar gael i’n helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â meddyliau negyddol ac sy’n gallu ein helpu i fabwysiadu dull newydd. Gallwn i awgrymu rhestr ddiddiwedd e.e. Feel The Fear & Do It Anyway (Susan Jeffers); The Chimp Paradox (Professor Stephen Peters), a llawer mwy. Os nad ydych yn hoffi darllen edrychwch ar y sgyrsiau TED ar Youtube neu bodlediadau - mae yna rai siaradwyr gwych i’w gwylio a gallwch ddewis canolbwyntio ar y pynciau sydd o ddiddordeb i chi!

Y cyngor pwysicaf y gallaf ei roi ar hyn o bryd yw, beth bynnag rydych yn ei wneud ar eich cyfnod ffyrlo, gwnewch yr hyn sydd orau i chi. Cofiwch mai pandemig yw hwn, nid oedd unrhyw un wedi paratoi ar ei gyfer ac rydym i gyd yn ceisio cael ein traed danom. Meddyliwch am eich anghenion personol ac anghenion eich teulu’n gyntaf, byddwch yn garedig i chi’ch hun a gwnewch yn fawr o’r amser hwn mewn ffordd sy’n iawn i CHI.

6th Mar 2020
Boosting Female Business Founders
Post