Eich hawliau, eich llais.
Rydym yn lansio cam olaf ein gwaith ymchwil ‘Eich hawliau, eich llais’ ar ran Plan International UK.
Mae Chwarae Teg – prif elusen cydraddoldeb rhywiol Cymru, yn cynnal yr ymchwil ar ran Plan International UK. Gofynnodd ein harolwg diweddar i bobl ifanc 11-25 oed yn y gogledd am eu profiadau, pa gymorth yr oeddent yn teimlo oedd ar gael iddynt a’r gwasanaethau efallai y byddent am eu defnyddio.
Rydym bellach am glywed gan unrhyw un sy’n hunanddiffinio’n ferch neu fenyw ifanc, 18-25 oed sy’n byw yng Ngogledd Cymru i gymryd rhan mewn sgwrs anffurfiol gyda’n Partner Cydweithredu, Emma Tamplin.
Byddai’n wych pe gallech ddweud wrthym am eich profiadau o dyfu i fyny yng Ngogledd Cymru, ac mae gennym ddiddordeb mawr mewn clywed eich barn ar rai o’r pynciau canlynol:
- Delwedd y corff a hunan-werth
- Cyfryngau Cymdeithasol
- Stereoteipio ar sail rhyw a rhywiaeth mewn ysgolion
- Perthnasoedd ac addysg rhyw
- Teimlo’n ddiogel mewn mannau cyhoeddus
- Mynediad i grwpiau y tu allan i’r ysgol e.e. chwaraeon
- Mynediad at wasanaethau
- Gwleidyddiaeth
- COVID-19
Bydd canlyniad y gwaith ymchwil hwn yn llywio rhaglen Champions of Wales - mudiad hawliau merched sy’n cefnogi pobl ifanc i ymgyrchu ar y materion sy’n effeithio arnynt ac i wneud newid cadarnhaol yn eu cymunedau. Ei nod yw sicrhau bod Cymru’n fan lle caiff merched eu clywed a lle maent yn teimlo eu bod wedi’u grymuso.
Os ydych yn hunanddiffinio’n ferch neu fenyw ifanc, yn 18-25 oed yn byw yng Ngogledd Cymru a’ch bod am ein helpu i weithio dros eich hawliau yng Nghymru, cysylltwch ag Emma ar [email protected], i siarad am y materion rydych chi’n teimlo sydd angen eu newid er mwyn creu Cymru fwy cadarnhaol i fenywod ifanc.