Pencampwr awtistiaeth ysbrydoledig i'w chlodfori

24th July 2020

Mae cyfieithydd ac ymgyrchydd gwobredig sy’n benderfynol o newid y canfyddiad o awtistiaeth ymysg y gymuned Tsieineaidd wedi cael cydnabyddiaeth am ei chyflawniadau unwaith eto.

Mae Hazel Lim, mam i dri sy’n byw yn Abertawe, bellach wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Pencampwraig Gymunedol yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg - lle caiff ei chyflawniadau eu dathlu.

Wedi ei geni a’i magu ym Malaysia ac o gefndir Malaysia-Tsieineaidd, roedd Hazel wedi symud i Lundain ac wedi bod yn gweithio fel cyfieithydd am 15 mlynedd pan gafodd ei mab hynaf ddiagnosis o awtistiaeth yn 2015. Yn awyddus i’w gefnogi gymaint â phosibl, symudodd gyda’i gŵr a’u tri plenty i Abertawe er mwyn iddi allu astudio ar gyfer MSc mewn Awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar ôl penderfynu ymgartrefu’n barhaol yn y ddinas, sefydlodd Hazel y Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd, pan sylweddolodd nad oedd cymorth ar gael - hyd yn oed yn genedlaethol - i deuluoedd Tsieineaidd sy’n delio â’r cyflwr.

Ers hynny mae hi wedi gweithio’n ddiflino i ymgysylltu â theuluoedd Tsieineaidd sydd â phlant awtistig, a oedd bron â bod yn cuddio’u hunain oherwydd y rhwystrau ieithyddol a’r stigma diwylliannol sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth.

Mae ei heffaith wedi bod yn sylweddol i’w chymuned leol ac i rai sy’n ceisio deall awtistiaeth yng nghyd-destun diwylliannol Tsieineaidd ledled y byd. Yn 2019, cynhyrchodd Hazel y llyfryn awtistiaeth dwyieithog cyntaf Saesneg a Tsieineaidd yn y DU. Roedd yn rhoi dealltwriaeth ragarweiniol i weithwyr proffesiynol o’r rhwystrau diwylliannol niferus, er mwyn eu cynorthwyo i gefnogi eu cleientiaid Tsieineaidd yn fwy effeithiol. Mae’r llyfryn wedi cael effaith fawr - wedi’i rannu’n rhyngwladol, ac mae bellach yn adnodd hanfodol ar gyfer cymunedau Tsieineaidd Awtistig.

Mae gwaith Hazel wedi ei harwain i rownd derfynol Gwobrau Arwyr Awtistiaeth y DU ac enillodd dlws ‘rhywun a newidiodd fy mywyd’ yng Ngwobrau Gweithwyr Awtistiaeth Broffesiynol y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol yn 2020.

Roeddwn yn falch iawn o glywed fy mod yn rownd derfynol Womenspire. Rwy'n credu bod y gwaith rwy'n ei wneud yn bwysig ac yn cael effaith gadarnhaol iawn, felly mae'n anrhydedd bod Chwarae Teg yn meddwl hynny hefyd.

"Gall diwylliant ac iaith fod yn rhwystr, ond mae'r Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd, yr wy’n ei redeg dan y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru, yn darparu'r cymorth sydd ei angen ar rieni a phlant.

"Am gyfnod llawer yn rhy hir, mae rhieni Tsieineaidd, mamau yn enwedig, plant ag awtistiaeth wedi byw gyda chamddehongliad o’r ffeithiau ynghylch awtistiaeth a gydag ofn cael eu datgysylltu o'r gymuned.

"Mae deall nad yw awtistiaeth yn glefyd a bod gwybodaeth a chefnogaeth ar gael wedi dod ag ymdeimlad o dderbyn i rieni ac wedi newid eu bywydau a bywydau plant awtistig er gwell.

"Yn y dyfodol rwy’n gobeithio gallu ymestyn allan i drefi a dinasoedd eraill yn y DU fel y gellir sefydlu mwy o grwpiau fel hyn. Drwy chwalu'r rhwystrau diwylliannol yma, rydym yn sicrhau bod pobl ifanc ag awtistiaeth yn cael y cymorth cywir er mwyn cyflawni eu potensial.

Hazel Lim
Ar rhestr fer Pencampwraig Gymunedol, Gwobrau Womenspire20

Mae Hazel yn ymgorffori Womenspire. Mae wedi wynebu rhwystrau sylweddol ond parhaodd â'i gwaith er mwyn sicrhau bod plant a theuluoedd yn y gymuned Tsieineaidd sy'n wynebu awtistiaeth yn cael y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

"Rydyn ni eisiau cydnabod Hazel a menywod rhyfeddol eraill tebyg iddi o bob cefndir sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i eraill.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr Chwarae Teg

Bydd seremoni Womenspire Chwarae Teg 2020 ar 29 Medi yn cael ei gynnal ar-lein ar draws y cyfryngau cymdeithasol eleni, oherwydd Covid19. Ond serch hynny mae’n addo bod yn noson i’w chofio. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ewch i https://chwaraeteg.com/prosiectau/womenspire/