Bydd prosiect i annog arweinwyr benywaidd y dyfodol yn canolbwyntio ar yrfaoedd yn yr heddlu drwy ddigwyddiad rhithwir yr wythnos nesaf.
Mae’r rhaglen LeadHerShip yn dod â phum menyw ysbrydoledig o bob rhan o’r Heddlu yng Nghymru at ei gilydd ar gyfer gweminar ar 2 Rhagfyr rhwng 12-1.30yp.
Mae LeadHerShip, sy’n cael ei redeg gan Chwarae Teg, wedi’i anelu at fenywod 16-25 oed a’i nod yw sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n well mewn rolau sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ac yn rhoi llwyfan iddyn nhw leisio’u barn.
Y rhai fydd yn cymryd rhan yw:
- Siobhan Aldridge, Swyddog Heddlu a Hyrwyddwr Recriwtio BAME, Heddlu De Cymru
- Prif Arolygydd Lisa Gore, Heddlu De Cymru
- Prif Arolygydd Emma Naughton, Heddlu Gogledd Cymru
- Robina Ahmed, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Heddlu Gogledd Cymru
- Ditectif Brif Arolygydd Tracey Rankine, Heddlu De Cymru
Bydd y weminar yn rhoi cipolwg ar eu swyddi bob dydd, sut y gwnaethon nhw gyrraedd eu gyrfaoedd, ac yn edrych ar arweinyddiaeth ac amrywiaeth o fewn yr heddlu. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau.