Iechyd meddwl – a mis o anturiaethau cerdded cŵn er mwyn helpu i gael gwared â diflastod y gaeaf

11th January 2021

Iechyd meddwl – a mis o anturiaethau cerdded cŵn er mwyn helpu i gael gwared â diflastod y gaeaf

Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) - y corff proffesiynol ar gyfer Adnoddau Dynol a datblygu pobl - yn awgrymu bod materion iechyd meddwl yn cael effaith sylweddol ar les gweithwyr a’u bod yn un o brif achosion absenoldeb hirdymor o’r gwaith. Fel gyda phob cyflogwr blaenllaw, mae Chwarae Teg yn hybu iechyd meddwl da ac yn rhoi cymorth i weithwyr sy’n profi salwch meddwl gan gynnwys gorbryder neu iselder.

Effeithiwyd yn sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant menywod yn arbennig gan argyfwng Covid 19. Mae ymchwil a gynhaliwyd gan LinkedIn ym mis Tachwedd 2020 yn dangos bwlch sylweddol rhwng lefelau straen sy’n gysylltiedig â gwaith dynion a menywod, gan ddatgelu yn y pen draw’r effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar yrfaoedd menywod. Tynnodd yr astudiaeth sylw at y ffaith bod bron i dri chwarter y menywod (73 y cant) wedi dweud eu bod wedi teimlo straen yn gysylltiedig â gwaith dros y mis diwethaf. Roedd hyn o’i gymharu â llai na chwech o bob 10 dyn (57 y cant) a deimlai’r un fath yn ystod y cyfnod hwn.

Felly ar gyfer mis Ionawr 2021 rydym yn annog pobl i dreulio ychydig o amser yn yr awyr agored, yn unol â galwadau am ‘fod yn egnïol er mwyn iechyd meddwl’ ym mis Ionawr. Yn Chwarae Teg, ochr yn ochr â myfyrio ar ‘Ddydd Llun Glas’ a chael paned o de rithwir gyda chydweithiwr ar gyfer ‘Llun Paned/Brew Monday’, rydym yn rhoi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol.

Oeddech chi’n gwybod bod mis Ionawr hefyd yn fis ‘Cerdded Eich Ci’?

Byddwn yn annog ein staff i gymryd seibiant gyda’u cŵn a rhannu eu hanturiaethau cerdded a’u lluniau o’u cŵn gyda ni. Wrth gwrs, rydym am i’r rhai nad oes ganddynt gŵn fynd allan hefyd: nid esgus yw hyn i ddangos ein hanifail anwes blewog, pedair coes yn unig, ond cyfle i adael y ddesg, y bwrdd a’r gliniadur, hyd yn oed am ychydig funudau.

Efallai mai cerdded yw’r math o ymarfer corff sy’n cael ei danbrisio fwyaf, ond ni ellir gwadu’r manteision iechyd corfforol a meddyliol a allai ddod i ni gyd o ganlyniad i ffrwydriad dyddiol o natur ac awyr iach. Gwyddom fod cerdded yn gwella hunanganfyddiad a hunan-barch, hwyliau ac ansawdd cwsg, a gall leihau straen, pryder a blinder.

Felly sut mae gweithgarwch corfforol yn gwella iechyd meddwl a llesiant?

Mae’r GIG yn ein hannog i wneud ymarfer corff gan ei fod yn gallu helpu’n corff i ryddhau ‘hormonau da’ - endorffinau. Gall y rhain wneud i chi deimlo’n dda a gwella eich hwyliau; gallant helpu gyda chanolbwyntio a’ch helpu i gael noson well o gwsg. Mae rhywfaint o dystiolaeth hyd yn oed sy’n awgrymu y gallai bod yng nghwmni ci hefyd ostwng lefelau cortisol, hormon straen sy’n gallu cael effeithiau negyddol ar ein hiechyd meddwl.

Mae sefydliadau a rheolwyr da yn sylweddoli nad yw syllu ar sgrin drwy’r dydd yn dda i ni, ac yn Chwarae Teg rydym yn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael amser i ffwrdd. Rydym yn cydnabod nad yw gweithio oriau hir, di-dor yn ffordd gynaliadwy o weithredu a bydd yn effeithio ar ein gweithwyr a’u hiechyd meddwl. Mae canfod y cydbwysedd iawn rhwng gwaith a bywyd personol yn caniatáu i’n gweithwyr aros yn ffres ac yn gynhyrchiol, a dyna pam rydym yn rhoi amser i bawb fyfyrio, ymestyn, cerdded, ymarfer corff gyda’u cŵn ac ailwefru’r batris.

Felly, os gwelwch chi luniau o gŵn Chwarae Teg a’u perchnogion ar y cyfryngau cymdeithasol, mae croeso i chi eu hoffi a’u rhannu ac ymgysylltu â ni a dangos eich straeon ynglŷn â sut rydych chi’n rhannu eich diwrnod drwy fynd â’ch ci am dro.

Byddwn wrth ein boddau’n gweld cŵn, esgidiau glaw, mwd a glaw ambell i ddiwrnod mae’n siŵr ynghyd ag awyr las ambell waith. Ond yn fwy na dim, byddwn yn rhannu awgrymiadau ar sut i wella llesiant meddyliol yn y gweithle a sut y gall yr hanner awr honno’n taflu pêl ac yn mwynhau’r awyr iach gael effaith hynod o gadarnhaol ar ein hagwedd, ein lefelau straen a’n hapusrwydd yn gyffredinol.