Mae menyw ifanc o Gastell-nedd wedi treulio’r diwrnod gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi iddi gael y cyfle i gysgodi’r Arweinydd, Rob Jones, ac i edrych ar waith mewnol bywyd gwleidyddol lleol.
Bu’r fyfyrwraig Rowena Griffiths, 18, yn llwyddiannus wrth wneud cais i gymryd rhan ym mhrosiect #LeadHerShip Chwarae Teg sy’n annog menywod ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a sylweddoli bod ganddynt y potensial i wneud newidiadau. Gan ddisgrifio ei hun fel ‘ymgyrchydd cymunedol’, mae Rowena yn angerddol dros helpu eraill ac mae ganddi ysbryd cymunedol cryf. Yn ddiweddar, creodd ei menter gymdeithasol ei hun lle’r oedd yn uwchgylchu pianos a’u hailddosbarthu yn ôl i’r gymuned er mwyn i bawb gael eu mwynhau.
Yn ystod y dydd, cysgododd Rowena yr Arweinydd mewn cyfarfodydd, trafododd ei rôl mewn sgwrs un-i-un ac aeth ar daith o amgylch Y Ceiau a chwrdd â’r staff. Y nod oedd darparu profiad uniongyrchol a chyfle i ddysgu am sut y mae llywodraeth leol yn gwneud penderfyniadau ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru ac i drafod gwahanol rolau o fewn yr awdurdod.
Mae menywod yn dal i fod yn amlwg absennol o lawer o rolau sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru, gan gynrychioli dim ond 28% o Aelodau Seneddol a chynghorwyr. Mae Chwarae Teg yn gweithio i sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli’n well mewn rolau penderfynu o’r fath. Drwy brosiectau fel #LeadHerShip mae’r elusen yn gobeithio rhoi llwyfan i fenywod ifanc fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed ar lefelau uchaf gwleidyddiaeth Cymru.