LeadHerShip - diwrnod gyda United Welsh

1st March 2020
Blog gan cyfranogwr LeadHerShip, Anwen Worthy.

Mae United Welsh yn gymdeidas dai, sy’n gweithredu ledled De Cymru. Dyna’r cyfan wyddwn i amdani cyn cymryd rhan yn y rhaglen LeadHerShip drwy Chwarae Teg, a roddodd gyfle i mi gysgodi Lynda Sagona (Prif Weithredwr United Welsh) am ddeuddydd.

Fe wnes i gais i LeadHerShip ar gyngor un o’m rheolwyr. Roedd yn gyfle i weld sut yr oedd sefydliad gwahanol yn gweithredu, ac i gael cyngor ynglŷn â bod yn fenyw mewn rôl arwain. Dewisais United Welsh gan fod gen i ddiddordeb mewn dysgu mwy am y trydydd sector.

Gefais i ddechrau gwael i’r diwrnod cyntaf - gadewais y darn o bapur gyda chyfeiriad United Welsh ar fwrdd y gegin, felly bu’n rhaid i mi redeg yn ôl o’r orsaf drenau a yna methais trên! Beth bynnag, gyrhaedais i swyddfeydd United Welsh yng Nghaerffili, ac o fewn pum munud i gyfarfod Lynda sylweddolais fod y dyddiau’n mynd i fod yn llawer mwy gwerthfawr nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl – ac nad oedd Lynda yn ddim byd tebyg i sut yr oeddwn wedi dychmygu y byddai Prif Weithredwr.

Wrth iddi ddod â choffi i ni a chyfarch bron pawb a ddaeth drwy’r dderbynfa wrth ei enw, daeth yn amlwg ei bod yn arweinydd sy’n credu’n gryf mewn buddsoddi yn ei pherthnasau ag eraill. Roedd y budd a ddaw i United Welsh o ganlyniad i hynny’n amlwg dros y deuddydd nesaf - gan i mi weld, dro ar ôl tro, mor gyfeillgar oedd yr amgylchedd, a chystal y mae’r sefydliad yn cydweithio.

Dros y deuddydd cawsom wibdaith o gwmpas yr hyn y mae United Welsh yn ei wneud. O eistedd mewn digwyddiad am yr Economi Sylfaenol ac arsylwi cyfarfodydd tîm gweithredol a chyfarfodydd gweithredol i ymweld â phrosiectau tai, cawsom gipolwg ar ehangder gweithgareddau a swyddogaethau United Welsh.

Roedd digon o amser hefyd i drafod gyda Lynda yr hyn a welsom ac a glywsom a gofyn cwestiynau iddi am ei gyrfa a gwrando ar ei chyngor i ni, yn ogystal â thrafod sut mae United Welsh yn cymhwyso cysyniadau fel gwerth am arian i’w gweithgareddau (diddorol i mi fel cyfrifydd!). Cawsom gyfle hefyd i siarad â menywod eraill ledled y sefydliad am eu gwaith a’u profiadau.

Does fawr o syndod felly fy mod wedi blino’n lân ar ddiwedd pob dydd! Felly, rhoddodd y deuddydd lawer i mi feddwl amdano, a digon o gyngor i mi ei ddefnyddio yn fy ngyrfa fy hun. Y cyngor mwyaf cofiadwy roddodd Lynda oedd pwysigrwydd bod yn chi’ch hun pan ydych chi’n arweinydd. Mae’n amlwg ei bod yn rhoi hyn ar waith drwy’r ffordd y mae hi ei hun yn arwain United Welsh.

Hoffwn ddweud “Diolch” mawr i Chwarae Teg, United Welsh a Lynda am ddeuddydd gwerthfawr iawn o gysgodi. I unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan yn y rhaglen LeadHerShip gyda Chwarae Teg, buaswn i’n dweud ewch amdani – bydd yn rhoi cyfleoedd i chi a fyddai’n anodd eu cael unrhyw ffordd arall, a hyder i chi ar gyfer eich dyfodol fel menyw sy’n arwain.