Lechyd Meddwl – Buddion Dysgu Ar-lein

18th January 2021

Mae ymchwil yn dangos y gall dysgu sgiliau newydd wella’ch llesiant meddyliol trwy hybu hunanhyder, eich helpu i feithrin ymdeimlad o bwrpas, a’ch helpu i gysylltu ag eraill.

Fel rhan o’n ffocws ar lesiant y mis hwn, mae Cheryl Royall, Partner Datblygu Gyrfa, yn rhannu ei meddyliau ynghylch pam y gall dysgu ar-lein gyda chyrsiau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Chwarae Teg ddwyn buddion gwych yn 2021.

Mae’r pandemig wedi cyflwyno digonedd o newidiadau a heriau i’r rhan fwyaf ohonom, ond un o’r pethau cadarnhaol y mae wedi’i roi i rai ohonom yw mwy o amser. Naill ai trwy beidio â chymudo, trwy weithio’n hyblyg neu drwy fod ar ffyrlo o bosib – dyna air y byddwn bob amser yn ei gysylltu â 2020 ynghyd â’r ymadrodd ‘Mae eich microffon wedi’i ddiffodd’!

Fel sawl sefydliad, roedd yn rhaid i ni, yn Chwarae Teg, wneud newidiadau cyflym i’n cyrsiau hyfforddi y llynedd. Yr her a’n hwynebodd oedd symud ein rhaglenni dysgu wyneb yn wyneb ar-lein, gan gynnal eu natur gydweithredol a rhyngweithiol bwysig ar yr un pryd.

Talodd y gwaith caled ar ei ganfed fel a ddengys yr adborth canlynol oddi wrth ein dysgwyr ynghylch yr agweddau cadarnhaol ar eu profiad o ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud:

‘Y rhyngweithio a chlywed storïau a phrofiadau pobl eraill,’

‘Cwrdd â phawb. Dychwelyd i astudiaethau. Ymdeimlad o gyflawni.’

‘Mae wedi bod yn hawdd gweld y berthynas rhwng y cyflwyniadau a’r llyfrau gwaith, sydd o ganlyniad wedi ei gwneud yn hawdd iawn dilyn y gwaith.’

‘Rwy’n teimlo fel fy mod yn dysgu er fy mod wedi bod allan o’r ystafell ddosbarth ers sawl blwyddyn. Gyda phob sesiwn rwy’n teimlo’n fwy hyderus.’

Beth yw buddion dysgu ar-lein?

Un o’r buddion allweddol yw’r cynnydd mewn hygyrchedd y mae’n ei gynnig, gan fod llawer o’r rhwystrau mynediad sydd ynghlwm wrth ddysgu traddodiadol wedi’u lleihau. Ceir mwy o gyfleoedd ar gyfer y bobl hynny ag anawsterau symudedd, y bobl hynny â gofynion dysgu penodol, neu ar gyfer y bobl hynny sy’n dioddef cyflyrau iechyd penodol. Yn ogystal, gall y math hwn o ddysgu beri llai o ofn a straen i rai trwy leihau’r angen i fod mewn grŵp mawr, i siarad yn gyhoeddus, neu i yrru er enghraifft.

Ni cheir cyfyngiadau daearyddol bellach gan nad yw’r cyrsiau’n benodol i leoliad, ac mae’n bosibl cwblhau popeth o gysur eich cartref eich hun. Nid oes angen gofidio am dagfeydd traffig, mynd ar goll mewn ardal newydd, na dod o hyd i le i barcio a thalu amdano. A ydych angen teithio o’ch cartref ar gyfer gwaith, neu i fynd ar wyliau? Gyda chyswllt da â’r rhyngrwyd nid oes angen ichi fethu’r cyfle i ddysgu.

“Rwy’n teimlo bod dysgu ar-lein wedi rhoi’r hyblygrwydd i mi ymdopi â fy llwyth gwaith fy hun wrth ddilyn y cwrs o gartref. Er enghraifft, arbedais yr awr a hanner y byddwn wedi’i dreulio’n teithio i’r ddau gyfeiriad, a defnyddiais yr amser hwnnw i ysgrifennu fy aseiniadau cyn gynted ag y daeth y cwrs i ben. Yn ystod yr adeg ddigyffelyb hon yn enwedig, roedd yn wych gwybod y gallech wneud cynnydd ac ennill cymhwyster yng nghysur eich cartref eich hun, yn rhydd rhag unrhyw risg.” Cyfranogwr o Grŵp 328, 2020

Gall dysgu ar-lein fod o fudd i chi yn eich rôl bresennol, a chefnogi datblygiad eich gyrfa. Gall dewis cyrsiau sy’n benodol i rôl, neu sy’n benodol i yrfa yn y dyfodol ychwanegu gwerth i’ch CV. Rydych hefyd yn ennill sgiliau trosglwyddadwy a all gefnogi ceisiadau a chyfweliadau, hunan-gymhelliant, ymrwymiad, a sgiliau rheoli amser, yn enwedig os ydych yn ymdopi â bywyd gwaith/teuluol prysur o gwmpas eich dysgu. Byddwch yn gwella’ch sgiliau technegol trwy ddatblygu gwybodaeth am systemau TG a phlatfformau dysgu gwahanol.

Gellir cael buddion ariannol hefyd oherwydd bod sawl cwrs am ddim neu gost isel ar gael ar-lein, ac mae rhai o’r cwmnïau hyfforddi mwy yn cynnig bargeinion gwell ar gyfer hyfforddiant gan y gall fod yn bosibl lleihau gorbenion a gallant drosglwyddo’r arbedion ymlaen i’w dysgwyr.

Yn Chwarae Teg, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a ariannir, ac a ariannir gan fyfyrwyr eu hunain, sy’n cynnig cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth ynghyd â naws o feithrin hyder a datblygu gyrfa, ac mae’r cyrsiau hyn yn parhau i gynnig amgylchedd cydweithredol a rhyngweithiol ar-lein. Maent wedi’u cynllunio’n fedrus i alluogi i bob cyfranogwr ddod i adnabod ei gilydd, sydd nid yn unig yn cynnig y cyfle i rwydweithio, ond hefyd i wneud ffrindiau newydd wrth gadw’n ddiogel ac ennill cymhwyster gwerth chweil.

“O ganlyniad i’r ffaith fod fy mywyd wedi arafu eleni [2020], sylweddolais fod gen i fwy o amser, a galluogodd hyn fodd imi gwblhau’r cwrs. Er y byddwn wedi hoffi cwblhau’r cwrs wyneb yn wyneb yn hytrach nag ar-lein, roedd dysgu ar-lein yn brofiad cadarnhaol. Roedd y cymorth a gefais gan fy ngrŵp ac arweinydd fy nghwrs yn anhygoel, a gallwn weld eu bod i gyd yn yr un cwch â mi a’u bod yn ymladd yr un brwydrau â minnau yn ystod y pandemig hwn. Roedd yn deimlad da gwybod bod tîm o fenywod yn cwblhau’r cwrs hwn gyda mi, a’n bod ni i gyd yn ei gwblhau gyda’n gilydd.

Roedd yn deimlad da gallu treulio amser oddi wrth bopeth arall yn fy mywyd a chanolbwyntio arnaf fy hun a’m dyfodol am gyfnod byr yn ystod yr wythnos. Yn bennaf oll, roedd yn deimlad da cwblhau cwrs a llwyddo yn ystod adeg mor ofnadwy, a helpodd fi i ailafael ar reolaeth a chaffael profiad cadarnhaol o’r flwyddyn. O gwblhau’r cwrs, rhoddwyd ymdeimlad o gyflawniad imi yn ystod blwyddyn anodd tu hwnt”. Cyfranogwr o Grŵp 328

I ddarllen rhagor gan fenywod sydd wedi cwblhau ein rhaglenni datblygu arweinyddiaeth, ewch i’n tudalen Storïau Llwyddiant yn https://chwaraeteg.com/llwyddiant/

I ddarganfod mwy am ein cyrsiau ar gyfer 2021*, ewch i https://chwaraeteg.com/rhaglen-menywod i wneud cais ar-lein. Bydd aelodau’n tîm wrth eu boddau’n siarad â chi am y rhaglenni, a’r hyn sydd ynghlwm wrthynt, er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs gorau i gyflawni’ch potensial.

*Sylwer, er bod rhai o’r cyrsiau’n cael eu hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, bydd yn rhaid bodloni meini prawf cymhwysedd.