Mae croesawu gweithio'n hyblyg ac ystwyth yn gam cryf tuag at wireddu Cydraddoldeb Rhywiol

26th October 2020

Mae pandemig y coronafeirws yn cael effaith ddinistriol ar gydraddoldeb rhywiol. Mae tystiolaeth yn dangos bod menywod nid yn unig yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o ofal plant a gwaith tŷ ond eu bod hefyd yn fwy tebygol o fod mewn swyddi ansicr ac ar gyflog is.

Canfu ymchwil yn y DU a gynhaliwyd gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) fod 90% o famau sy’n gweithio wedi gorfod cynyddu eu cyfrifoldebau gofal plant, nad oedd 30% bellach yn gallu gweithio 9am–5pm, a bod 16% wedi gorfod lleihau eu horiau gwaith mewn gwirionedd i ofalu am eu plant – a hynny i gyd oherwydd y pandemig.

Mae llawer o arbenigwyr wedi beirniadu safiad anhyblyg cyflogwyr mewn perthynas ag opsiynau gweithio ystwyth ac o bell, gan fod ymchwil yn dangos bod gweithwyr sy’n gweithio gartref yn fwy cynhyrchiol. Canfu astudiaeth o 6,000 o weithwyr gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd yr hoffai 90% o’r rhai sydd wedi’u lleoli gartref barhau i weithio gartref i ryw raddau yn y dyfodol.

Serch hynny, mae’r diffyg hyblygrwydd a gynigir yn amlwg mewn llawer o achosion ac mae wedi cael effaith anghymesur ar fenywod. Er enghraifft, gallai diwydiannau fel canolfannau galwadau, sydd gan amlaf o lawer yn cyflogi menywod, fod yn gwneud llawer mwy i’w cefnogi ac i ‘ailgodi’n gryfach’.

Canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol mai menywod yw 67% o’r gweithlu mewn canolfannau galwadau a bod 4% o boblogaeth weithio’r DU yn cael eu cyflogi ynddynt.

Ac etio mae canolfannau galwadau wedi cofnodi cyfraddau trosiant uchel a lefelau uchel o absenoldebau staff. Mae rhai gweithwyr wedi honni bod swydd mewn canolfan alwadau yn un o’r swyddi mwyaf dirdynnol, anodd ac anhyblyg o ran sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, yn enwedig o ystyried yr oriau anghymdeithasol a all fod ynghlwm a’r cymudo i leoliadau swyddfa anghysbell.

Yn hanesyddol, nid yw llawer o ganolfannau galwadau wedi bod yn agored i weithio’n hyblyg i fynd i’r afael â hyn, er gwaethaf y ffaith bod ymchwil wedi dangos, pan gynigir gweithio gartref, bod staff yn fwy tebygol o gael eu cadw.

Fodd bynnag, mae rhai cyflogwyr blaengar yn y maes sy’n arwain y ffordd – gan greu patrymau gweithio’n hyblyg a gwneud lles staff yn ganolog i’w busnesau.

Mae Llinell Gymorth Meic, llinell gymorth eiriolaeth i bobl dan 25 oed yng Nghymru, wedi ymgorffori gweithio o bell ers ei sefydlu 11 mlynedd yn ôl. Mae Stephanie Hoffman, Pennaeth Gwasanaethau, yn hyrwyddo gweithio o bell:

“Mae’n gwneud synnwyr busnes da yn bendant. Beth allai fod yn well na gweithiwr llawn cymhelliant sy’n gynhyrchiol ac effeithiol? Rwyf wedi gweithio fel Prif Swyddog Gweithredol, gweithiwr sifft rheng flaen, gweithiwr llawrydd. Ym mhob un o’r swyddi hyn, mae cydbwysedd rhwng gweithio gartref ac mewn swyddfa wedi rhoi hyblygrwydd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i mi, gan fy ngwneud yn llawer mwy effeithiol a chynhyrchiol, ac yn llawn cymhelliant, yn fy mywyd personol a phroffesiynol. Rwyf hefyd wedi gweld yr effaith gyffredinol ar lesiant cydweithwyr, teulu a ffrindiau yn sgil newidiadau COVID-19. Rwy’n gobeithio bod y newid hwn tuag at weithio gartref yn un o gymynroddion hirach a chynaliadwy y pandemig COVID-19.”

Mae cyflogwyr gwybodus hefyd yn sylweddoli mai un o’r manteision mwyaf i weithio o bell yw parhad busnes – mae sefydlu gweithlu gwasgaredig yn ddaearyddol yn golygu bod llai o debygolrwydd o darfu’n eang.

Yn wir, yn ystod y pandemig presennol, roedd cyfyngiadau symud yn effeithio’n eang ar sefydliadau a oedd yn gweithio o swyddfeydd, ond parhaodd llinellau cymorth a oedd yn cynnig gweithio o bell fel arfer.

Yn ogystal, trwy gael gwared ar gyfyngiadau daearyddol, gall sefydliadau gael mynediad at gronfa lawer mwy o ymgeiswyr. Gall yr unigolion hyn ddod o ardaloedd mwy gwledig ac mae’r swyddi yn gyffredinol yn fwy deniadol a hygyrch i’r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â menywod ag anableddau sy’n dod ar draws rhwystrau anghymesur yn y gweithlu.

Mae menywod yn gyfran fawr o’r gweithlu di-dâl, ac mae’r diffyg cefnogaeth gan gyflogwyr yn aml yn arwain at seibiannau gyrfa , sydd â goblygiadau ariannol eang i fenywod. Trwy roi trefniadau gweithio’n hyblyg ac o bell ar waith, gall menywod reoli eu hamserlenni eu hunain sy’n addas iddynt, gan sicrhau nad oes unrhyw ran o’u bywyd yn cael ei hesgeuluso. Mae’n darparu cae chwarae mwy cyfartal i fenywod yn gyffredinol, yn enwedig y rhai sydd â phryderon o ran gofalu.

Mae Elise Gould, Uwch-economydd yn y Sefydliad Polisi Economaidd, yn cefnogi’r pwynt hwn fel un o gefnogwyr mwyaf gweithio o bell, gan ddweud: “Mae’n galluogi menywod sy’n gweithio i wneud amserlen o amgylch eu cyfrifoldebau eraill.”

Mae buddion busnes cryf hefyd, oherwydd y gall galluogi staff i ddewis eu horiau roi’r gallu i gyflogwyr gynnig gwasanaethau 24 awr, sydd yn amhrisiadwy i ganolfannau galwadau.

O ystyried y buddion busnes ac i weithwyr y gall symud i batrymau gweithio mwy hyblyg, ystwyth ac o bell eu creu, mae anhyblygedd rhai cyflogwyr a’u gwrthodiad i’w hystyried yn y tymor hir yn codi cwestiynau am sut y maent yn gwerthfawrogi gwaith menywod.