Mae cwmni adeiladu blaenllaw, sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r ffaith nad yw merched yn cael cynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant, wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gynnydd.
Mae LEB Construction Ltd, o Aberystwyth, wedi bod yn gweithio gyda’r elusen cydraddoldeb rhywedd, Chwarae Teg, yn sgil cofrestru ar gyfer ei Rhaglen Fusnes Cenedl Hyblyg 2 a gyllidir yn llawn.
Mae’r busnes blaengar a mentrus bellach wedi derbyn statws ‘Cyflogwr Chwarae Teg - Datblygu’ gan Chwarae Teg, ar ôl ymdrechu i annog merched i ystyried gyrfa mewn adeiladu fel dewis dilys. Yn ogystal â gweithredu polisïau ac arferion cynhwysol, mae LEB hefyd yn mynd i’r afael â phroblem sy’n bodoli ar hyd a lled y diwydiant, sef lles, drwy ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl ei holl staff.
Gweithiodd Chwarae Teg gydag LEB ar draws nifer o feysydd yn ymwneud ag arferion polisi a gweithio, gan sicrhau eu bod yn gyflogwyr sy’n dda i deuluoedd, yn hyblyg ac yn gynhwysol a chanddynt system rheoli perfformiad effeithiol sy’n caniatáu i staff ffynnu.
Mae’r cwmni’n arbenigo mewn ailfodelu cymhleth, adnewyddu a phrosiectau adeiladu o’r newydd. Yn ddiweddar dathlon nhw Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched drwy ffilmio a rhannu fideo o Charlie Standing sy’n Rheolwr Adnoddau Dynol a Chyllid ac sydd bellach yn Berson Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn LEB, yn sôn am ei thaith i’r diwydiant adeiladu. Yn ogystal, gwnaed a rhannwyd fideo o’r prentis benywaidd newydd, Antonia Morgan, yn annog merched i fynd i’r sector.