Mae adroddiad newydd gan yr elusen Cymreig, Chwarae Teg, yn rhoi cipolwg ar brofiadau menywod ar incwm isel ledled Cymru, gan ddatgelu bod llawer o fenywod yn byw ar ymyl y dibyn a’u bod mewn perygl sylweddol o fyw mewn tlodi.
Gweithiodd Chwarae Teg gyda Sefydliad Bevan i gasglu tystiolaeth o brofiad menywod sy’n byw mewn tlodi. Ar hyn o bryd, mae maint y tlodi mae menywod yng Nghymru yn ei wynebu wedi’i guddio i raddau helaeth oherwydd bod data’n cael ei gasglu ar lefel aelwyd, gan dybio bod arian ac adnoddau’n cael eu dosbarthu’n gyfartal ar yr aelwyd.
Mae’r ymchwil yn dangos bod profiad menywod o dlodi’n wahanol ac yn annhebyg i brofiad dynion, ac mae risg ac effaith tlodi’n cael ei waethygu gan fethiant polisi cyhoeddus i gydnabod y gwahaniaethau hyn.
Yn y system bresennol mae diwylliant o ddibyniaeth ariannol – o ganlyniad i’r system nawdd cymdeithasol, gofal plant a thai – lle mae menywod yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar bartneriaid i ychwanegu at eu hincwm oherwydd eu sefyllfa fel gofalwyr ac o fewn sectorau cyflog isel. Yn ôl yr hyn a ganfu’r adroddiad, mae bod mewn cwpl yn lleihau’r risg o dlodi i fenywod yn sylweddol, gan ei haneru’n fras.
Colli tai a pherthynas yn chwalu oedd y prif achosion a oedd yn cyfrannu at dlodi ymysg menywod; ymhlith menywod sy’n ddigartref, perthynas yn chwalu gyda thrais oedd un o achos sylfaenol bron i chwarter y menywod a oedd ag angen blaenoriaethol.
Er mai gwaith yw’r prif lwybr allan o dlodi o hyd, nid yw’r opsiwn hwn mor syml i fenywod sy’n aml yn gweithio ar gyflogau isel, ac sy’n gorfod cyfnewid cyflog a datblygiad am hyblygrwydd o ran anghenion gofalu. Yn ôl yr adroddiad; ‘ Yn seiliedig ar enillion canolrifol, mae angen i fenywod weithio’n llawn amser i osgoi tlodi, beth bynnag fo statws ei haelwyd ac os oes gan fenyw blant, nid yn unig oes angen iddi weithio’n llawn amser, ond mae’n rhaid iddi fod ymhlith yr hanner sy’n ennill y mwyaf o gyflog’.
Mae’r ymchwil hwn yn bellgyrhaeddol wrth ystyried nid yn unig fesurau traddodiadol o dlodi, ond hefyd wrth ystyried asedau a dyledion menywod, amddifadedd materol, tai a mynediad at fwyd.