Mae dylunydd graffig talentog, a roddodd y mwyaf i’w swydd i lansio ei chynnyrch dysgu Cymraeg ei hun, am cael ei chydnabod am ei llwyddiant fel menyw fusnes.
Mae Sian Cartledge yn rownd derfynol y categori Entrepreneur yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg, lle bydd ei chyflawniadau o sefydlu busnes poblogaidd a chynyddol yn cael eu ddathlu.
Pan ddechreuodd ei mab, Max, mewn ysgol gynradd Gymraeg, bron i 2 flynedd yn ôl, fe sylwodd Sian ar fwlch yn y farchnad. Fel un nad oedd yn siarad Cymraeg, roedd hi’n awyddus i ddysgu Cymraeg gydag ef ac felly dyluniodd a chynhyrchodd set o gardiau fflach. Gan rannu ei gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol, roedden nhw’n boblogaidd ar unwaith gyda 250 o becynnau wedi’u gwerthu mewn wythnos ac archebion yn dod o mor bell â Milwaukee a Phatagonia!
Tua’r un adeg roedd ei mam, a oedd yn rhedeg swyddfa bost Cwmtwrch yng Nghwm Tawe, yn ymddeol felly cymerodd Sian yr eiddo fel ei gweithdy a’i warws ac aeth ar-lein hefyd yn www.maxrocks.co.uk. Mae galw mawr wedi gweld Sian yn ehangu ei amrywiaeth i gynnwys mwy o adnoddau addysgol, cardiau cyfarch ac addurniadau cartref, sydd i gyd yn eco-gyfeillgar ac yn awr yn cael eu gwerthu mewn dros 170 o stocwyr ledled Cymru gan gynnwys CADW a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd hi hefyd yn bwysig i Sian estyn allan i’w chymuned ac mae hi bellach yn cyflogi mamau lleol eraill i bacio a dosbarthu ei chynnyrch, gyda’u horiau yn cael eu gweithio o gwmpas amserau’r ysgol a phryd sy’n gyfleus iddynt. Mae Sian yn hyrwyddo oriau gweithio hyblyg ac yn credu y dylid cael newid mawr yn ystod y diwrnod gwaith arferol o 9-5, gan hwyluso’r broses bontio i rieni (mamau yn arbennig) i ddychwelyd i’r gwaith a hefyd i fod y rhiant yr hoffen ei fod.