Ble mae menywod yn gweithio yn y Sector Trafnidiaeth?

4th July 2022

Mae Hyb Menywod Mewn Trafnidiaeth Cymru a Chwarae Teg yn rhan o ymchwil ar y cyd i geisio deall ble mae menywod yn gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth yng Nghymru a beth yw eu profiadau yn y Gwaith.

Ym maes yr ymchwil hwn, byddwn yn cynnal trafodaethau grŵp ffocws gyda menywod sy’n gweithio yn y sectorau bws, rheilffordd a thrafnidiaeth teithio llesol, a byddwn yn gofyn am ddata proffil gweithwyr gan y cwmnïau.

Ar gyfer yr olaf, paratowyd holiadur gennym i’w gwblhau gan adrannau Adnoddau Dynol y cwmnïau. Bydd yr holiadur hwn yn help i bennu ffigurau gwaelodlin ar gyfer cyfranogiad menywod yn y sector trafnidiaeth a chynorthwyo Menywod Mewn Trafnidiaeth Hwb Cymru i sefydlu targedau a meysydd gweithredu.

Lawrlwythwch y ffurflen Microsoft Word er mwyn llenwi’r holiadur, a, ac unwaith i chi lenwi’r ffurflen, uwchlwythwch y ddolen hon: https://www.surveymonkey.co.uk/r/999V3TB

Gallwch ddod o hyd i ganllaw ar sut i lenwi’r holiadur yn y ddogfen Word.

DYDDIAD CAU: Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen yw 12 Awst.

Bydd pob ateb yn ddienw ac yn cael eu trin yn gyfrinachol a’u defnyddio at ddiben yr ymchwil hwn yn unig. Caiff yr holl ddata ei gasglu er mwyn rhoi mewnwelediad i’r sector yn gyffredinol, ac ni chaiff unrhyw ddata cwmni ei gyflwyno ar ei ben ei hun. Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch data, ewch i bolisi preifatrwydd Chwarae Teg.

Ble mae menywod yn gweithio yn y Sector Trafnidiaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chwblhau’r ffurflen hon, cysylltwch â phartner ymchwil Chwarae Teg Dr Hade Turkmen ar 07587182519 neu [email protected].