Mae Chwarae Teg wedi cychwyn arddangos chwech Merched Gwych o Gymru i ddathlu eu bywydau a’u llwyddiannau – cyn y cynhelir pleidlais ‘dewis y bobl ‘ yng ngwobrau Womenspire yn ddiweddarach eleni.
Mae’r ymgyrch ddigidol yn proffilio cyfres o fenywod ffantastig bob blwyddyn, o bob cefndir, o hanes a heddiw. Y nod yw amlygu eu llwyddiannau, a rhoi i ferched a menywod ifanc ar draws y genedl fodelau rôl i ymgeisio atynt.
Eleni, cydweithiodd Chwarae Teg gyda Senedd Ieuenctid Cymru (SIC), Cyngor Hil Cymru (CHC) a’r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid (EYST) ar yr ymgyrch. Dewisiodd pob ardal seneddol o SIC un menyw i gael sylw, fel a gwnaeth CHC ac EYST, fel a ganlyn:
Tahirah Ali - Gwirfoddolwr Cymunedol, Llysgennad Ieuenctid a Hyrwyddwr Amrywiaeth(EYST)
Kate Bosse-Griffiths - Eifftolegydd a’r awdur Cymraeg, a anwyd yn yr Almaen, (De-ddwyrain Cymru)
Betsi Cadwaladr - Nyrs, Arloeswraig, Ac enw bwrdd lechyd mwyaf Cyrmru (Gogledd Cymru)
Mrs Vernesta Cyril OBE - Sylfaenydd Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De-ddwyrain Cymru (CHC)
Caryl Parry Jones - Canwr-gyfansoddwr, darlledwr, actores, awdur a chyfansoddwr, (De-orllewin Cymru)
Elin Jones AS - Llywydd y Senedd (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Bydd y menywod yn cael eu proffilio drwy lwyfannau digidol Chwarae Teg ar Instagram, trydar, Facebook a’i wefan.
Bydd yr ymgyrch yn diweddu gyda phleidlais fyw yn ystod gwobrau Womenspire Chwarae Teg ar 29 Medi - a fydd yn arwain at un fenyw yn derbyn tlws Dewis y Bobl. Eleni, oherwydd Covid19, bydd y seremoni yn cael ei gynnal ar-lein ond serch hynny mae’n addo bod yn noson i’w chofio.