#newiddystori, dyna’r neges gan Chwarae Teg i fenywod yng Nghymru sydd am wneud mwy o’u gyrfaoedd.
Yr Wythnos Addysg Oedolion hon, 17-23 Mehefin, mae’r elusen cydraddoldeb rhywiol Gymreig, yn gweithio gyda rhai o sêr disglair ei rhaglen datblygu gyrfa, i hyrwyddo manteision addysg oedolion ac annog eraill i newid ei stori hefyd.
Mae Andrea Garvey, Jodi Ann-Hicks a Nicole Kinnaird wedi cwblhau rhaglen datblygu gyrfa - Cenedl Hyblyg gan Chwarae Teg. Maent yn canmol y cynllun am roi hwb cychwynnol i bennod newydd yn eu bywydau, ac maent yn awr yn rhannu eu hanes er mwyn perswadio eraill i wneud yr un peth.
Mae Chwarae Teg hefyd yn annog menywod i ddarganfod mwy drwy gofrestru ar gyfer gweminar am ddim ynglyn a’r rhaglen ar chwaraeteg.com/timeforyou-webinar/, a fydd yn rhedeg o 1.15pm ddydd Iau 20 Mehefin.
Ariennir y rhaglen yn llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys cymhwyster Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (SARh).
Pan gwblhaodd Andrea o Bort Talbot gwrs Cenedl Hyblyg yn 2012 fe roddodd yr hyder iddi fynd ymlaen i gwblhau cymhwyster Rheolaeth lefel 5. Ar ôl dioddef problemau iechyd meddwl, gan gynnwys ymosodiadau panig, sylweddolodd fod dysgu yn ei galluogi i ganolbwyntio ar rywbeth arall ac, yn ei dro, newidiodd ei holl ragolygon mewn bywyd. Teimlodd Andrea, o’r diwedd, fel y gallai hi gyflawni breuddwyd ei phlentyndod o ymgymhwyso yn y gyfraith – ac fe wnaeth hynny arwain iddi ennill gwobr ‘cyfraniad eithriadol ‘. Ar hyn o bryd mae Andrea wrthi’n cwblhau gradd Mesitr mewn Cyfiawnder Troseddol Cymwysedig a Throseddeg.
Mae ei hymdrechion gwych wedi arwain at cael i’r rownd derfynol yn y categori Dysgwr yng ngwobrau Womenspire 2019 Chwarae Teg. Mae hefyd wedi cael ei chydnabod yn ddiweddar gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, gan ennill y wobr Newid Bywyd a Dilyniant yng Ngwobrau Dysgu Ysbrydoli Oedolion 2019 yn ogystal â gwobr gyffredinol y seremoni - gellir gweld ei fideo ar https://youtu.be/w8vhCOgzelM.
Dywedodd Andrea:
“Nid oes amheuaeth bod y rhaglen Cenedl Hyblyg gyda Chwarae Teg wedi newid cyfeiriad fy mywyd ac wedi cael effaith mawr. Rydw i eisiau i fenywod eraill wybod, nad yw eu huchelgeison na’u breuddwydion ac amcanion drosodd, os nad ydyn nhw eisiau iddyn nhw fod. Edrych arna i er mwyn gwybod, yn araf ond yn sicr, fe godais i fyny a phan wnes i, doedd dim byd na neb byth yn dweud wrthyf na allaf, byth eto. Rwy’n dweud, nawr eich tro chi yw hi, os gallwch ei weld, credwch fi, gallwch wneud hynny o hyd. Fy nghenhadaeth i nawr yw ysbrydoli menywod eraill i fentro i gredu eto, fel y gallant hwythau hefyd newid eu bywydau a chyrraedd eu gwir botensial.”
Mae Jodi-Ann, o Y Bont-faen, hefyd ar rhester y rownd derfynol ar gyfer y gwobr Dysgwr Womenspire 2019. Ar ôl cwblhau ei rhaglen datblygu gyrfa gyda Chwarae Teg yn gynharach eleni, mae hi wedi cael ei dyrchafu i Rheolwr Gweithrediadau gan ei chyflogwr, Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, anerchodd Jodi fenywod, yn seremoni raddio ddiweddaraf Dwyrain Cymru ar gyfer y rhaglen SARh, am sut y rhoddodd hwb gwirioneddol i’w gyrfa.
Dywdoff Jodi-Ann:
“Rhoddodd y cymhwyster SARh gyfle gwirioneddol i mi dyfu fel person ac ennill hyder newydd a sgiliau arweinyddiaeth. Ar ôl cwblhau’r cwrs, deuthum yn aelod o uwch dîm arweinyddiaeth y cwmni a chefais fy nyrchafu’n Rheolwr Gweithrediadau. Fi oedd y fenyw ieuengaf a cyntaf i ymgymryd â’r rôl ond diolch i’r sgiliau newydd rwyf wedi’u datblygu, rwyf wedi gallu helpu fy nhîm i gyrraedd y lefel uchaf erioed o allbwn.”
Yn 2018 enillodd Nicole o Gaerdydd wobr Dysgwr Womenspire. Aeth yn ôl i fyd addysg fel myfyriwr aeddfed a bydd yn cwblhau ei thrydedd flwyddyn o BA Anrhydedd mewn Addysg, Seicoleg, ac Anghenion Addysg Arbennig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Gorffennaf. Datblygodd Nicole strategaethau hefyd i helpu ei mab dyslecsig drwy’r ysgol, ac mae’n credu trwy arbenigo mewn Seicoleg ac AAA y gall sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn cyflawni eu potensial trwy ddeall eu hanghenion dysgu a dod o hyd i ffyrdd o’u goresgyn. Mae cyflawniadau Nicole wedi deillio o’i phenderfyniad i beidio â chaniatáu ei hanabledd difrifol i’w hatal rhag cyflawni ei nodau.
Dywedodd Nicole said:
“Wrth i mi ddysgu rwyf wedi parhau i gefnogi eraill i wneud yr un peth, yn enwedig myfyrwyr aeddfed a’r rhai sy’n anabl yn y brifysgol. Mae ennill gwobr Womenspire 2018 wedi fy helpu i siarad am fynd yn ôl i addysg ar ôl digwyddiad iechyd braidd yn ofnadwy yn fy mywyd ac rwyf wedi mwynhau bob eiliad o sicrhau bod eraill yn gadarnhaol am eu taith addysg.”
Dywedod Emma Richards, o Chwarae Teg:
“Rydym yn falch iawn o gyflawniadau’r holl fenywod sydd wedi cymryd rhan yn ein rhaglen dros y blynyddoedd. Nid yn unig y maent wedi ennill sgiliau arweinyddiaeth allweddol a werthfawrogir gan gyflogwyr ond hefyd wedi datblygu’r hyder a’r cymhelliant i gyflawni a ffynnu yn y gweithle. Yr Wythnos Addysg Oedolion rydyam am dynnu sylw at rai o’n sêr disglair ac annog eraill i ddilyn eu hesiampl. Mae Andrea, Jodi-Ann a Nicole wir yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni ac wedi dod yn fodelau rôl go iawn i lawer.
“Hyd yn hyn mae miloedd o fenywod yng Nghymru wedi cymryd rhan yn ein rhaglen am ddim ac wedi sicrhau codiadau cyflog o dros £1.6 miliwn, felly rwy’n bendant yn annog menywod eraill i gofrestru ar gyfer ein gweminar a chael gwybod mwy.”
Gall menywod sydd â ddiddordeb yn y gweminar gofrestru ar chwaraeteg.com/timeforyou-webinar/ neu gael mwy o wybodaeth am y rhaglen datblygu gyrfa am ddim ar www.agilenation2.org.uk/for-women.
Mae rhagor o fanylion am gwobrau Womenspire Awards ar gael ar chwaraeteg.com/womenspire.
I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Addysg Oedolion ewch i: www.adultlearnersweek.wales/cy/