Mae Nid Jyst I Fechgyn yn ôl!

16th October 2020
Dylai merched ledled Cymru sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymuno â’r weminar ddiweddaraf Nid Jyst i Fechgyn - dyna’r neges gan Chwarae Teg a Dŵr Cymru sy’n ymuno yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Bydd panel o bum gweithiwr benywaidd ysbrydoledig sy’n gweithio, mewn amrywiaeth o rolau STEM yn Dŵr Cymru, yn dangos mae Nid Jyst I Fechgyn eu swyddi.

Bydd y panel o Dŵr Cymru yn cynnwys Leanne Williams - Pennaeth Rhaglen, Thayammal Soorianarayanan - Pensaer Datrysiadau, Sara Jones - Perfformiad Rhaglen Dŵr Gwastraff, Keeley-Ann Kerr - Dadansoddwr Optimeiddio Ynni and Elly Hannigan Popp - Arweinydd Newid Sefydliadol.

Bydd y pum model rôl benywaidd yn helpu i ddangos i’r merched bod gyrfaoedd mewn STEM o fewn eu cyrraedd, ac yn eu galluogi i:

• Darganfod sut olwg sydd ar ‘ddiwrnod mewn bywyd’ yn gweithio mewn diwydiant STEM.

• Clywed sut maen nhw wedi bod yn gweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

• Cael eu hysbrydoli gan eu teithiau gyrfa a gofyn cwestiynau

Y weminar Nid Jyst I Fechgyn hon yw’r bedwaredd yn ein cyfres ar-lein ar gyfer merched oed ysgol uwchradd, yr ydym wedi bod yn ei chyflawni ers i’r pandemig coronafirws ddechrau. Os yw'r rhai yr ydym wedi'u rhedeg yn y gorffennol yn engreifftiau da, mi fydd y merched yn cael llawer allan ohono. Dywedodd 100% o'r cyfranogwyr wrthym eu bod wedi mwynhau ein rhediad olaf o ddigwyddiadau a'u bod pellach yn teimlo'n fwy gwybodus am ddewisiadau gyrfa STEM o ganlyniad!

“Yn ystod yr amseroedd heriol hyn bydd y weminar hon yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol o helpu i ysbrydoli ac ysgogi merched, wrth arddangos gyrfaoedd gwerth chweil mewn STEM.

Emma Tamplin
Partner Cydweithredu

Rydym yn falch iawn o gymeryd drosodd panel Nid Jyst I Fechgyn ar gyfer y digwyddiad hwn. Rydym fel cwmni wedi ymrwymo i gael mwy a mwy o fenywod i mewn i STEM, ac rydym yn deall y buddion y gall gweithlu amrywiol a mwy cyfartal o ran rhyw eu cynnig.

“Mae ein panel o weithwyr yn enghreifftiau disglair o sut y gall menywod lwyddo mewn STEM ac rwy’n siŵr y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn teimlo eu brwdfrydedd a’u gwybodaeth - gan obeithio ysgogi’r merched i ddilyn eu harweiniad.

Annette Mason
Pennaeth Talent a Chynhwysiant, Dŵr Cymru

Am wybodaeth bellach ac i gofrestru ewch i chwaraeteg.com/events/not-just-for-boys/