Mae merched o oed ysgol uwchradd yng ngogledd orllewin Cymru yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer y digwyddiad diweddaraf Nid Jyst I Fechgyn – Menywod mewn STEM nawr - yn cynnwys modelau rôl benywaidd ysbrydoledig.
Bydd yn cael ei redeg gan Chwarae Teg, a chynhelir y gweminar rhwng 10am-11am ar ddydd Iau 16 Gorffennaf, ac yn cynnwys Youmna Mouhamad, terfynwr yn y categori Menywod Mewn STEM yng Ngwobrau Womenspire 2020. Mae Youmna hefyd yn Gyfarwyddwr ar Myana Natural ac yn Gymrawd yr Academi Frenhinol Peirianneg ym Mhrifysgol De Cymru.
O’r Bathdy Brenhinol bydd y panel yn cynnwys Rebecca Morgan, Pennaeth Gwasanaethau Casgliad, Beth Gillard, Pennaeth Seilwaith TG a Jenny Honey, Rheolwr Technegol.
Bydd y panel yn helpu i ddangos i’r merched Nid Jyst if Fechgyn y mae gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), ac yn rhoi cyfle i ferched:
- Darganfod sut beth yw ‘diwrnod ym mywyd’ rhywun sy’n gweithio mewn diwydiant STEM
- Clywed sut maent wedi bod yn gweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19
- Cael eich ysbrydoli gan eu teithiau gyrfa
- Cael y cyfle i holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’u gyrfaoedd i’r modelau rôl