Dywedwch wrthym am eich sefydliad
Mae Eversheds Sutherland yn gwmni cyfreithiol byd-eang, gyda swyddfeydd mewn mwy na 30 o wledydd, gan gynnwys ein swyddfa hirsefydlog o 470 o bobl yng Nghaerdydd. Rydym yn darparu cyngor cyfreithiol ac atebion i sylfaen cleientiaid rhyngwladol ar draws cwmnïau masnachol, adnoddau dynol, ymgyfreitha a rheoli anghydfod, eiddo tiriog a thrwy Konexo, ein practis gwasanaethau cyfreithiol amgen. Rydym yn adnabyddus yn y farchnad am ein hymwybyddiaeth fasnachol a’n gwybodaeth am y diwydiant ac am ddarparu atebion arloesol wedi’u teilwra i’n cleientiaid.
Ein pwrpas yw: Helpu ein cleientiaid, ein pobl a’n cymunedau i ffynnu. Mae hyn yn ganolog i bopeth a wnawn, ac rydym yn falch o’n diwylliant a’n gwerthoedd sy’n llywio ein hymddygiad.
Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Mae llwyddiant pob un o’r merched a enwebwyd yn y gwobrau yn cael effaith gadarnhaol arnyn nhw, eu cyflogwr, eu teulu a’r gymuned y maent yn byw ynddi.
Yn Eversheds Sutherland rydym yn frwd dros ddatblygu diwylliant cynhwysol lle mae ein pobl yn cael eu grymuso i gyflawni eu potensial. Mae gan ein Rhwydwaith Rhywedd rôl allweddol i’w chwarae wrth hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd ar draws ein busnes, y proffesiwn cyfreithiol a chyda’n cleientiaid. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i gefnogi a dathlu llwyddiannau gwych menywod yng Nghymru.
Pam mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig i chi?
Yn Eversheds Sutherland, rydym wedi ymrwymo i adeiladu busnes sy’n gytbwys o ran rhywedd a byw ein gwerthoedd er mwyn sefydlu diwylliant agored, proffesiynol a chynhwysol. Mae’r ymrwymiad hwn wrth wraidd ein ffocws strategol i ddatblygu amgylchedd lle gall cydweithwyr o bob rhywedd ddatblygu i’w llawn botensial, gan wneud dewisiadau gyrfa boddhaus a lle nad yw rhywedd neu hunaniaeth o ran rhywedd yn rhwystr i lwyddiant.
Rydym yn falch o fod yn un o ‘50 Cyflogwr Gorau i Fenywod’ y Times ac o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud fel busnes tuag at gydraddoldeb rhywedd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud. Rydym yn parhau i weithio’n galed tuag at ein targedau rhywedd rhyngwladol drwy gynllun gweithredu â ffocws sy’n cefnogi ein nodau i ddenu, recriwtio, cadw a hyrwyddo’r dalent amrywiol orau, ac ymgorffori ein diwylliant cynhwysol.
Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Fel cyflogwr lleol yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i’r gymuned ehangach yr ydym yn gweithredu ynddi. Rydym yn llwyr gefnogi nod Chwarae Teg i ddatblygu Cymru decach lle mae menywod yn cyflawni ac yn ffynnu, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd ein cyfraniad wrth weithio tuag at y nod hwnnw o fewn y sector cyfreithiol.