Mae menter Nid Dim Ond Ar Gyfer Bechgyn Chwarae Teg yn symud ar-lein, gan ddarparu gweminarau 1 awr rhad ac am ddim i ferched sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae’r gweminarau hyn yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol o helpu i gadw merched yn llawn ysbrydoliaeth a chymhelliant, tra’n arddangos gyrfaoedd gwerth chweil mewn diwydiannau STEM.
Ymunwch â ni am drafodaethau gyda menywod ysbrydoledig sy’n gweithio mewn diwydiannau STEM a:
- Darganfod sut beth yw ‘diwrnod ym mywyd’ rhywun sy’n gweithio mewn diwydiant STEM
- Clywed sut maen nhw wedi bod yn gweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19
- Cael eich ysbrydoli gan eu teithiau gyrfa a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
- Cael y cyfle i holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’u gyrfaoedd i’r modelau rôl
Gyrfaoedd STEM yn erbyn COVID-19 Cynhelir sesiynau 1 awr fel a ganlyn:
1pm Gorffennaf 1af mewn partneriaeth â Cymdeitha Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI)
Cofrestrwch yma
10am Gorffennaf 16eg mewn partneriaeth ag Y Bathdy Brenhinol
Cofrestrwch yma