‘Dylai menywod sy’n gweithio, o bob rhan o Gymru, fanteisio ar y cyfle i roi hwb i’w gyrfaoedd’ – dyna’r neges y mis yma, gan ddwy fenyw o Gymry sydd wedi gwneud yr union beth hynny.
Mae Anna-Jayne Davies a Vilash Sanghera wedi cwblhau Rhaglen Datblygu Gyrfa rhad ac am ddim Chwarae Teg, sydd, yn eu barn nhw, wedi rhoi hwb i benodau newydd yn eu bywydau – ac yn awr maent yn rhannu eu straeon er mwyn annog menywod eraill i wneud yr un peth.
Mae Anna-Jayne Davies sy’n gweithio i Leekes wedi mynd o nerth i nerth - cafodd ddyrchafiad ar ddiwedd y cwrs ac mae hi am i fenywod eraill elwa hefyd!