“Os na fyddwn ni’n herio ac yn newid nawr, yna bydd cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru yn dod i stop ac hyd yn oed yn cymryd cam yn ôl.” - Dyna’r rhybudd gan Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni (8.3.21).
Mae gan Cerys a’r elusen cydraddoldeb rhywedd y mae’n ei harwain bryderon dybryd o ran creu Cymru decach, yn enwedig wrth i ni nesáu at etholiadau’r Senedd a bwrw ati i sicrhau adferiad yn dilyn pandemig Covid-19.
Mae nifer y menywod mewn seddi y gellir eu hennill yn etholiadau’r Senedd fis Mai yn syfrdanol o isel a gallai hyn arwain at senedd yng Nghymru sy’n cael ei rheoli gan ddynion gwyn ac o bosib fod heb unrhyw ferched BAME unwaith eto.
Mae’r wybodaeth hon, ynghyd â’r ffaith bod Covid-19 wedi datgelu a gwaethygu anghydraddoldebau, yn creu darlun llwm iawn i Gymru. Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol na dynion o fod yn weithwyr allweddol, yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swyddi ac ysgwyddo’r cyfrifoldebau o addysgu gartref a gofalu.
Felly mae Chwarae Teg yn herio pleidiau gwleidyddol i ymrwymo i’r newidiadau sydd eu hangen cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Wrth lansio ei Maniffesto ar gyfer Cydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru’ ddiwedd y llynedd galwodd yr elusen ar y rhai sydd mewn grym i sicrhau gweledigaeth ar gyfer Cymru lle gall pob merch o bob cefndir a phrofiad gyflawni a ffynnu.