Samantha Toombs yw'r fenyw gyntaf i gadeirio bwrdd BT yng Nghymru

29th April 2019

Mae Samantha Toombs wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol ac Iechyd BT yng Nghymru. Yn y blog hwn, mae’n trafod ei rôl fel cyfarwyddwr yn BT, a bod y fenyw gyntaf i gadeirio bwrdd BT yng Nghymru.

Mae’n amser cyffrous i fod yn gweithio yn y maes digidol a chyfathrebu. Rydym ar fin gweld datblygiadau technolegol mawr a chyffrous yn y blynyddoedd nesaf, a fydd yn newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio.

Faint o ddyfeisiau electronig yn eich cartref ar hyn o bryd sydd wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd? I lawer o garterfi, gallai fod cymaint â deg. Rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu bum gwaith yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, gyda, ar gyfartaledd, 50 o ddyfeisiau wedi’u cysylltu ym mhob cartref yn y Deyrnas Gyfunol erbyn 2023.

Ond, ni fydd y chwyldro digidol hwn yn ymwneud yn unig â defnydd yn y cartref, fel setiau teledu clyfar a gemau fideo. Bydd yn ymwneud â chysylltu pob math o bethau i’r rhyngrwyd, o ffatrïoedd a cheir annibynol, i offer meddygol a biniau sbwriel clyfar.

O ran ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gallai’r dechnoleg gysylltiedig newydd hon ein helpu i fynd i’r afael yn well â rhai o’r heriau mawr sy’n wynebu ein trefi a’n hardaloedd gwledig. Er enghraifft: darparu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn fwy effeithlon; gwella cynllunio traffig a thref; a’n helpu i ddefnyddio ynni’n fwy cynaliadwy.

I bob pwrpas, mae hyn yn ymwneud â helpu i ddiogelu a gwella bywydau dinasyddion Cymru.

Mae’n hanfodol felly bod Cymru yn barod, a’n bod yn addasu ein holl ddiwydiannau a gwasanaethau cyhoeddus i’r datblygiadau a’r technolegau diweddaraf. Mi fydd hyn yn golygu gallu cysylltu yn rhwydd â’r rhwydweithiau newydd ffibr a 5G cyflym iawn, tra’n gwneud yn siwr bod y rhwydweithiau hyn yn ddiogel ac yn gost-effeithiol.

Yn fy rôl fel cyfarwyddwr sector cyhoeddus gyda BT yng Nghymru, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghydweithwyr i’n helpu i ddod yn genedl gwbl ddigidol.

Rwy’n falch bod llawer o’r technolegau a’r gwasanaethau newydd hyn sy’n cael eu cyflwyno gan BT yn cael eu datblygu a’u gweithredu gan staff yma yng Nghymru. Mae gan BT bresenoldeb ym mhob cwr o Gymru ac mae’n un o gyflogwyr a buddsoddwyr mwyaf y sector preifat yma. Mae BT Group bellach yn cyflogi 4,400 o bobl yng Nghymru ac yn gwario £300m gyda chyflenwyr o Gymru.

Rwy’n edrych ymlaen hefyd at gadeirio bwrdd BT yng Nghymru. Yn ogystal â chanolbwyntio ar gefnogi cwsmeriaid yng Nghymru a gwthio’r agenda ddigidol hon, byddwn yn gweithio hefyd i dynnu sylw at effaith gymdeithasol ac economaidd gadarnhaol staff BT Group yng Nghymru.

Fel y fenyw gyntaf i gadeirio bwrdd BT yng Nghymru, rwyf hefyd yn awyddus i hyrwyddo pwysigrwydd cydraddoldeb rhyw a dathlu amrywiaeth yn y gweithle.

Mae dal i fod prinder mawr o fenywod yn gweithio yn y maes technoleg – yng Nghymru, ac mewn gwledydd eraill – ac mae’n rhywbeth yr hoffwn ei newid. Gallwn wneud hyn trwy annog mwy o fenywod i geisio am y swyddi hyn, ac ystyried technoleg fel opsiwn gyrfa da.

Mae ymchwil yn dangos bod cwmnïau sydd â phrinder o fenywod ym mhob rhan o’u gweithlu yn colli allan ar amrywiaeth meddwl, arloesedd a refeniw.

Rwy’n falch o fod yn fentor gyda Chwarae Teg, gyda’r nod o geisio annog a chefnogi menywod a’r rhai o gefndiroedd lleiafrifol. Mae Chwarae Teg yn gwneud gwaith allweddol i ysbrydoli, dathlu a hyrwyddo cydraddoldeb rhyw yng Nghymru. Ond mae rhagor o waith i’w wneud o hyd yn y maes hwn.

Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i fanteisio ar y chwyldro digidol cyffrous sydd o’n blaenau. Rwy’n gobeithio y gallwn wneud hyn, gyda phobl o bob cefndir yng Nghymru yn chwarae eu rhan.