Y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), sef y sefydliad sy’n gyfrifol am bolisi eiddo deallusol y DU a rhoi patentau, nodau masnach a hawliau dylunio, yw’r sefydliad diweddaraf i gael ei gydnabod fel rhan o wasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg, sefydliad Chwarae Teg.
Drwy ennill y wobr Arian, mae’r IPO wedi dangos ymrwymiad i gydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth, ynghyd ag ymroddiad clir i ymgysylltu â staff - gan geisio sicrhau cydraddoldeb canlyniad a chyfleoedd i bawb. Dyma’r eildro i’r IPO lwyddo i ennill statws Arian trwy’r cynllun Cyflogwr Chwarae Teg, ac mae ei gadw yn gyflawniad gwirioneddol.
Gyda’i bencadlys yng Nghasnewydd, ynghyd â safle yn Llundain, mae tua 45% o 1,300 o staff yr IPO yn fenywod. Ymgysylltodd y sefydliad â Chwarae Teg fel rhan o’i strategaeth i nodi rhwystrau wrth recriwtio, cadw a datblygu menywod o fewn ei weithlu. Ei nod yw gwella cynrychiolaeth menywod, yn enwedig yn ei rolau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ac ar lefel uwch.