Wrth weithio ei ffordd i fyny o fod yn groesawydd deintyddol i fod yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae Tracy bob amser wedi bod yn frwdfrydig ynglŷn â gwella gwasanaethau iechyd a chysylltu’n bersonol â phobl. Mae’n cynorthwyo menywod i lwyddo trwy gynnig mentora a hyfforddiant. Mae’n aelod gweithredol o’r gymuned LGBT+ a dyfarnwyd hi’n Fodel Rôl y Flwyddyn Stonewall yn 2015.
Roedd ennill Gwobr Arweinyddiaeth Womenspire nid yn unig yn un o’m huchafbwyntiau ar gyfer 2019, ond yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa.
Pan glywais i fy mod i wedi cael fy enwebu gan gymaint o gydweithwyr roeddwn i wedi gweithio â nhw, ac o wahanol sefydliadau hefyd, teimlais i’n wylaidd iawn; wedyn roedd cyrraedd y rhestr fer derfynol yn newyddion gwych; ac wedyn roedd mynd ymlaen i ennill y wobr ar y noson wir yn ffantastig, yn enwedig wedi clywed cymaint o straeon ysbrydol gan y terfynwyr eraill! Gwahoddais i fy enwebwyr, aelodau allweddol o fy nhîm, a fy ngwraig i ymuno â fi ar gyfer y noson gan ei bod cymaint amdanyn nhw ag oedd hi amdana i. O’n i mor falch i’w hennill hi iddyn nhw! Roedd hi’n deimlad ffantastig ac roedd eu cael nhw yna i ddathlu ein llwyddiant ar y cyd yn wych.
Roedd y digwyddiad gwobrwyo ei hun yn ffordd wych o ddathlu’r wahanol gyfraniadau amrywiol mae menywod ar draws Cymru’n eu gwneud a ro’n i wrth fy modd fy mod i’n gallu cwrdd â therfynwyr eraill er mwyn dysgu rhagor am eu gwaith nhw, eu profiadau, eu hachosion, a’r hyn sy’n eu gyrru nhw.
Roedd hi’n agoriad llygad cymaint ag oedd hi’n brofiad ysbrydoli, gwrando a chlywed am y menywod anhygoel ar y noson a deall sut maen nhw’n cyfoethogi’n gweithleoedd a’n cymunedau. Mae Womenspire yn llwyfan hynod o gryf wrth dynnu sylw at y menywod penigamp hyn yng Nghymru. Golygodd e lawer i ni i gyd hefyd, yn ddieithriad.
Roedd y digwyddiad ei hun heb ei ail. Dwi wedi bod i lawer o seremonïau gwobrwyo dros y blynyddoedd ac roedd hon yn sefyll allan mewn llawer o ffyrdd. Roedd hi’n steilus ond eto’n anffurfiol ac yn enghraifft wych o alluogi pobl i fod eu hunain gyda phob math o wahanol wisgoedd, bwyd stryd ardderchog, ac amrywiaeth hynod o adloniant. Roedd yna deimlad o gynhesrwydd a chymorth gydag awyrgylch ffantastig. Roedd y tywydd yn wych hefyd ac roedd hynny wedi helpu gan ei bod hi’n digwydd tu allan yn lleoliad bendigedig Sain Ffagan.
Dwi wedi bod ar daith arwain amrywiol a buddiol, o ddechrau fel derbynnydd yn Ysbyty Deintyddol Caerdydd 36 blynedd yn ôl, a bod yn ffodus i ddringo’r holl ffordd i fod yn Brif Swyddog Gweithredol, yn gyntaf yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru a nawr yn ein bwrdd iechyd ym Mae Abertawe. Dwi hefyd wedi bod ar daith bersonol ddiddorol – priodi fy ngŵr (cyn-ŵr erbyn hyn) a chael dau o blant gyda’n gilydd, a nawr yn briod â fy ngwraig Dee, a chwrddais i â’r ddau yn y gwaith!
Dwi wedi bod yn ffodus iawn yn fy ngyrfa o gael fy ysbrydoli a fy nghefnogi gan gymaint o bobl ar hyd y ffordd ac i fod wedi dysgu cymaint o’r rhai sydd wedi rhoi cyfleoedd a hyder i mi wrth iddyn nhw fy nysgu, fy hyfforddi a fy mentora.
Roedd y wobr hon hefyd yn ffordd o allu myfyrio ar fy nhaith, a’u buddsoddiad nhw ynof i ar hyd y ffordd.
Pan wy’n dweud ei fod yn fraint fod yn arweinydd gwasanaeth cyhoeddus, rwy wir yn ei olygu e. Mae gweithio yn y GIG yn her ond eto’n fuddiol, a’r gwaith o arwain a galluogi newid i wella pethau i’n pobl, cleifion a chymunedau yw’r hyn sy’n fy ngyrru pob un diwrnod.
Mae’r sylw mae rhywun yn ei gael wrth ennill gwobr fel hon yn helpu o ran hyrwyddo’r achosion rydych chi’n gweithio drostyn nhw.
Helpodd ennill y Wobr Womenspire roi fy sefydliad ar y map fel rhan o gydnabod y gwerth rydyn ni’n ei osod ar arweinyddiaeth a’n taith i ddarparu’r profiad gorau posibl i’n pobl, boed yn staff ynteu’n gleifion. Dwi’n credu ei bod hi wedi helpu yn y ffordd mae fy nghydweithwyr yn credu yn fy ymrwymiad iddyn nhw fel eu Prif Swyddog Gweithredol trwy gael y gydnabyddiaeth allanol, genedlaethol hon hefyd ac mae wedi adfywio ein hegni, ein hangerdd a’n penderfyniad i arfer arweinyddiaeth dosturiol ac ystyriol ar gyfer ein pobl.
Dwi hefyd yn credu bod cydnabyddiaeth ennill y Wobr Womenspire wedi mynd rhyw ffordd tuag at ennill fy ngwobr yn hwyrach yn 2019 oddi wrth Arwain Cymru, pan enillais i’r categori Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus, a oedd eto wedi gwneud i fi deimlo’n wylaidd.
Dwi’n dadlau’n gryf dros gydnabod a dathlu llwyddiannau ac ymdrechion pobl a dwi wedi gosod pwyslais mawr ar hyn ymhob sefydliad a weithiais i ynddo e erioed. Dydyn ni’n ddim heb ein pobl ac i fi, fel Prif Swyddog Gweithredol, mae sicrhau ein bod yn cymryd yr amser i ddiolch iddynt a’u dathlu am yr hyn maen nhw wedi’i wneud yn rhan hanfodol o greu profiad gwych i gleifion a staff.
Pan mae pobl yn fy nisgrifio fel person ‘ysbrydoledig’, dwi wastad yn synnu: i fi dim ond ‘Tracy o Donypandy’ ydw i a dydw i ddim yn gwneud unrhyw beth arbennig, ond yn amlwg mae fy ngweithredoedd drwy fy arweinyddiaeth wedi cyseinio ag eraill ddigon i fi gael fy enwebu ar gyfer Womenspire ac mae hynny ynddo’i hun yn wefreiddiol iawn.
Dwi’n cyfri’n hun yn ffodus i fod mewn sefyllfa lle galla i roi rhywbeth yn ôl i eraill hefyd. Lle bynnag galla i annog pobl i fod eu hunain a’r fersiwn orau o’u hunain – dyna le bydda i.
Pryd bynnag dwi’n gweld y Wobr Womenspire wedi’i harddangos â balchder yn fy swyddfa, mae’n f’atgoffa sut gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth trwy wneud yr hyn rydyn ni’n ei gredu ynddo, a hefyd y diwrnod hwnnw yn 2019 pan ges i fy nghydnabod am wneud hynny’n union.