Erthygl wadd wedi’i hysgrifennu gan Catrin Griffiths, Wendy Hopkins Law.
Cwestiwn ichi – beth sy’n gyffredin i’r Dywysoges Diana, Marilyn Monroe a Whitney Houston?
Heblaw am eu rhyw, eu cyfoeth a’u henwogrwydd, wyddech chi y gwnaeth y tair ohonynt baratoi ewyllysiau cyn iddynt farw. A dyma fy nghyffes … hyd at chwe mis yn ôl, nid oedd gen i ewyllys. Fel cyfreithiwr sy’n arbenigo mewn ewyllysiau a phrofiant, dylwn i wybod yn well. Ond hyd at enedigaeth fy merch, roeddwn yn fodlon chwarae rwlét Rwsiaidd yn ddiniwed gyda dyfodol fy ystad. Roedd dod yn rhiant yn gwneud i mi sylweddoli fy marwoldeb fy hun ac, o ganlyniad, cafodd ewyllys ei lunio a’i lofnodi yn gyflym.
Yn naturiol, mae siarad am farwolaeth a’r hyn sy’n digwydd ar ôl inni farw yn bwnc y mae pobl am osgoi ei drafod, ond mae’n hanfodol yr ydym yn wynebu’r pethau anochel. Gallai fod yn hen ddihareb ond mae’n parhau i fod yn wir bod dim ond dau beth sy’n sicr mewn bywyd, sef marwolaeth a threthi. Gallai methu â chynllunio am y pethau anochel arwain at deuluoedd yn colli etifeddiaeth neu golli arian yn sgil ffioedd profiant a ffioedd cyfreithwyr uwch (a gadewch inni fod yn onest, pwy sydd eisiau hwnnw?).
Mae ewyllys yn eich galluogi i ddarparu ar gyfer partneriaid, y bobl yr ydych yn cyd-fyw gyda nhw, perthnasau pell, ffrindiau, ac, yn olaf ond yn sicr heb fod yn lleiaf, elusennau. Mae elusennau yn ennill cyllid gwerthfawr gan roddion mewn ewyllysiau ac mae’n ffynhonnell hanfodol o incwm iddynt, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol a chythryblus hwn, gyda phobl yn methu â rhedeg marathonau a chynnal digwyddiadau eraill i godi arian.
Gall ewyllys sydd wedi’i lunio’n gywir gyflawni’r cyfrifoldeb moesol sydd gan bob un ohonom i’n teulu i sicrhau eu bod yn derbyn gofal da ac nad ydynt yn teimlo cywilydd ariannol – er enghraifft, priod sydd ag etifeddiaeth rhy fach neu, yn achos plant, efallai etifeddu gormod yn rhy fuan. Mae paratoi ewyllys hefyd yn eich galluogi i benodi gwarcheidwad cyfreithiol i’ch plant os bydd pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant wedi marw, gwaetha’r modd.
Yn bwysig, mae hap a damwain y deddfau sy’n ymwneud â diffyg ewyllys, sy’n gymwys os byddwn yn marw heb wneud ewyllys, yn cael eu hosgoi os gwneir ewyllys. Er enghraifft, os byddwch yn marw heb ewyllys ac rydych yn gadael priod neu bartner sifil, a phlant, mae’n gamdybiaeth gyffredin y bydd eich priod yn etifeddu’ch ystad gyfan. Yn lle, bydd eich priod yn derbyn swm o £250,000, eich meddiannau personol a hanner gweddill eich ystad (h.y. hanner o’r hyn sydd ar ôl). Wedyn, mae gan eich plant hawl i hanner arall gweddill yr ystad ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed. A yw hyn yn darparu digon o ddarpariaeth i’ch priod? Beth pe bai’ch plant yn etifeddu hanner cartref y teulu a hwythau’n 18 oed yn unig? Yn fy marn i, mae hwn yn bell o fod yn ddelfrydol.
I’r gwrthwyneb, ag ystad fwy cymedrol ac efallai delio â sefyllfa ail briodas, gallai’r rheolau diffyg ewyllys arwain at y priod newydd yn etifeddu’r holl ystad gyda’r plant yn derbyn dim. Eto, rwy’n amau tegwch y canlyniad hwn.
Ond beth os ydych chi fel fi a’ch bod yn cyd-fyw? Nid oes y fath beth â phriodas cyfraith gyffredin, felly ni fydd cyplau dibriod, waeth beth pa mor hir yr ydynt wedi bod gyda’i gilydd, yn derbyn unrhyw beth o dan y rheolau diffyg ewyllys. Os nad ydych wedi priodi ac yn marw heb ewyllys, caiff yr ystad ei dosbarthu yn unol â’r rheolau diffyg ewyllys, gyda phlant yn etifeddu’n gyntaf, wedyn eich rhieni, eich brodyr a’ch chwiorydd, ac wedyn eich nithoedd a neiaint. Os nad oes unrhyw berthnasau byw eraill, bydd eich cefndryd a’ch cyfnitherod yn etifeddu eich ystad. Yn y bôn, os nad oes unrhyw berthnasau byw o gwbl, caiff yr ystad ei throsglwyddo i’r Goron. Nid oes unrhyw ddarpariaeth o gwbl ar gyfer partner sy’n cyd-fyw. Ar hyn o bryd, rwy’n deilio ag achos lle bu farw partner ymadawedig fy nghleient heb ewyllys. Etifeddwyd ei ystad gan ei ddau fab mabwysiadol er gwaethaf y ffaith nad oedd ar delerau siarad ag un o’i feibion am dros 17 mlynedd. O ganlyniad, mae ymgyfreitha wedi digwydd yn erbyn yr ystad am ddarpariaeth ariannol ar gyfer fy nghleient o dan Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975. Mae fy nghleient eisoes wedi talu miloedd o bunnoedd ar ei ffioedd cyfreithiol. Felly, rwy’n dod i’r casgliad bod yr hyn yr ydym yn ei ddysgu o’r stori fel a ganlyn – yr unig ffordd o sicrhau y darperir ar gyfer partner dibriod, pe baech yn marw, yw naill ai priodi neu wneud ewyllys, ac mae gwneud ewyllys yn rhatach heb gwestiwn.
Wrth wneud ewyllys, rwy’n eich annog i beidio ag estyn am y pecyn gwneud ewyllys gartref. Gall cymaint o bethau fynd o’u lle wrth lunio ewyllysion. Bydd y rhai sy’n ymgymryd â’r gwaith heb y wybodaeth arbenigol ofynnol yn agored o bosib i hawliadau esgeulustod gan gleientiaid dig a’u teuluoedd. Ar gyfer ffi gymedrol, gall cyfreithiwr cymwysedig baratoi ewyllys sydd wedi’i lunio’n gywir. Mae’n ffi fach i’w thalu ar gyfer y tawelwch meddwl a ddaw o ganlyniad. Felly, beth ydych chi’n aros amdano? Ymunwch â chlwb Whitney, Diana a Marilyn.