Noddwr Womenspire 2020 Dev Banc

13th September 2020

Soniwch am eich sefydliad.

Cafodd Banc Datblygu Cymru ei lansio ym mis Hydref 2017 i ddarparu cymorth i fusnesau sefydlu, cryfhau a thyfu. Rydyn ni’n cynnig benthyciadau o £1,000 i £5 miliwn a buddsoddiadau ecwiti o £50,000 i £5 miliwn ymhob cyfnod cyllido. Rydyn ni’n gweithio gyda busnesau sy’n amrywio mewn maint o fusnesau micro i fusnesau canolig, sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n barod i symud i Gymru.

Pam ydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Rydyn ni eisiau annog menywod mentrus yng Nghymru trwy ddathlu effaith gadarnhaol y menywod busnes hynny sydd eisoes ar flaen y gad. Rydyn ni hefyd yn awyddus i gynnig cefnogaeth i fwy o fenywod a’u galluogi i oresgyn unrhyw rwystrau er mwyn gallu bod yn gyfarwyddwyr neu’n aelodau bwrdd.

Pam mae cydraddoldeb rhywiol yn bwysig i chi?

Mae cael gweithlu egnïol a chydradd yn help i bawb. Mae’n cefnogi talentau pob un ac yn defnyddio lleisiau a syniadau amrywiol i sicrhau bod busnesau’n arloesi go iawn. Gall cynyddu cyfranogiad i’r economi ddod â gwir fanteision economaidd i Gymru. Bydd Cymru gyfan ar ei hennill o gael mwy o fenywod mewn busnes.

Pam ydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Rydyn ni’n teimlo’n angerddol y dylai busnes weithredu mewn ffordd gyfrifol ac y dylem gefnogi’r cymunedau rydyn ni’n gweithio drostynt ac yn cydweithio gyda nhw. Mae’r un peth yn wir am Chwarae Teg. Rydyn ni eisiau cefnogi’r economi a chreu cyfleoedd i entrepreneuriaid yng Nghymru. Mae cefnogi menywod i sefydlu neu dyfu eu busnesau eu hunain yn hollbwysig i ni ac rydyn ni’n gwybod bod hyn yn bwysig i Chwarae Teg hefyd. Trwy sawl menter a rhaglen fentora, maen nhw eisoes wedi helpu nifer o fenywod i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfa. Rydyn ni eisiau cefnogi hynny trwy helpu mwy o fenywod i gymryd y camau nesaf gyda’u busnesau.