Noddwr Womenspire 2020 Vauxhall Finance

9th July 2020

Soniwch ychydig am eich sefydliad.

Mae Vauxhall Finance yn gwmni cyllid sy’n diwallu anghenion symudedd ein cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau ariannol i’r brand Vauxhall. Mae ein tîm yn parhau â’n taith lwyddiannus trwy ganolbwyntio ar ein prif werthoedd sef Canolbwyntio ar y Cwsmer, Hyblygrwydd, Cydweithio, Atebolrwydd a Didwylledd.

Pam ydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Mae’n beth cyffrous i ni allu cefnogi llwyddiannau hynod menywod yng Nghymru ac rydyn ni’n awyddus i hyrwyddo’r cwmni fel cyflogwr posibl i fenywod uchelgeisiol yng Nghymru.
Mae gan Vauxhall Finance rwydwaith mewnol i ysbrydoli menywod, y Women’s Inspirational Network. Mae’r rhwydwaith yn annog menywod i ffynnu mewn amgylchedd ble mae cyfran helaeth o’r gweithlu yn ddynion. Mae’r rhwydwaith yn cynorthwyo gyda’r gwaith o recriwtio, cadw a datblygu unigolion talentog ymhob rhan o’r cwmni. Mae wedi ymrwymo i ysbrydoli newidiadau cadarnhaol er mwyn annog twf ac angerdd at y busnes.

Pam mae cydraddoldeb rhywiol yn bwysig i chi?

Yn Vauxhall Finance, rydyn ni’n credu bod cydraddoldeb yn fater o sicrhau fod pawb, waeth beth fo’u rhywedd, oedran, cefndir a chenedligrwydd, yn cael yr un cyfleoedd.

Mae’r diwydiant cyllid modurol yn faes sydd wedi’i gysylltu â dynion yn draddodiadol. Rydyn ni’n awyddus i annog mwy o fenywod i ymgeisio am swyddi gyda ni wrth i ni geisio datblygu gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn y cwmni.

Yn 2018, lansiwyd ein polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd, ynghyd â gweithdrefn olrhain ac adrodd rheolaidd i’n tîm arweiniol. Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i gyrraedd y nod o sicrhau gweithlu cynhwysol yng ngwir ystyr y gair, gan adeiladu ar y rhaglenni lawer sydd eisoes ar waith a rhagori arnynt.

Pam ydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Mae Chwarae Teg yn hyrwyddwr gwych dros gydraddoldeb rhywiol. Mae rhai o’n staff hyd yn oed wedi manteisio ar y Rhaglen Fusnes, Cenedl Hyblyg 2. Rydyn ni’n falch o fod yn cydweithio gyda’r elusen wych hon.